Bydd yr ymgeisydd cywir yn unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus fydd yn gyfrifol am gyfathrebu neges y Gymdeithas yn genedlaethol ac yn lleol i aelodau'r Gymdeithas, i'r cyhoedd, i'r wasg ac i'r awdurdodau. Bydd yn gweithio gyda'r nod o dynnu aelodau i mewn i'n ymgyrchoedd ac yn cynorthwyo swyddogion eraill i gyflawni'r nod hwn. Bydd yr unigolyn yn cydlynu tim staff Cymdeithas yr Iaith i sicrhau dilyniant a gweithrediad effeithiol ein hymgyrchoedd ynghyd a hwyluso gwaith ein gwirfoddolwyr.
Bydd yn swydd llawn amser £20,000 y flwyddyn sy'n cynnwys pecyn pensiwn, ond ystyrir ceisiadau gan ymgeisydd i weithio 30 awr yr wythnos pro rata.
Lleolir y swydd ym mhrif swyddfa'r Gymdeithas yn Aberystwyth - ystyrir lleoliadau eraill gyda'r ymgeisydd cywir.
Am fwy o wybodaeth a disgrifiad llawn o'r swydd cysylltwch gyda Menna Machreth, Cadeirydd y Gymdeithas ar 07973820580 neu menna@cymdeithas.org.
Dyddiad Cau: 25ain o Fedi.
Anfoner lythyr cais a C.V. llawn at Cymdeithas yr Iaith, Prif Swyddfa, Ystafell 5,
Y Cambria, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ
