Swydd Gweinyddwr Prosiectau, Ty Newydd

Swyddi gwag cwmniau sy'n hysbysebu ar maes-e.
Rheolau’r seiat
Caiff unrhyw gwmni sydd wedi talu am hysbysebu ar maes-e, osod manylion unrhyw swyddi gwag yma am ddim yn ystod cyfnod yr hysbyseb. Os hoffe chi gymryd mantais o'r cynnig yma, pwyswch yma am y manylion llawn am sut i hysbysebu ar maes-e.

Swydd Gweinyddwr Prosiectau, Ty Newydd

Postiogan Olwen Dafydd » Gwe 09 Hyd 2009 12:42 pm

CANOLFAN YSGRIFENNU TŶ NEWYDD

GWEINYDDWR PROSIECTAU
Swydd 6 mis

Mae Ymddiriedolaeth Taliesin Cyf. yn chwilio am berson bywiog a brwdfrydig a fyddai’n barod i ymrwymo i ddatblygu cyfleon ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd.

Disgwylid i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cefnogaeth weinyddol i holl raglenni a phrosiectau allweddol Tŷ Newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg gan gynnwys Ysgrifennu mewn Gofal Iechyd/ Writers in Healthcare ac Ysgrifennu mewn Busnes/Writing in Business, ynghyd â’r Rhaglen Addysg a’r Rhaglen Ryngwladol. Bydd y Gweinyddwr Prosiectau hefyd yn darparu cefnogaeth weinyddol i’r Cyfarwyddwr Gweithredol.

Bydd rheoli gwefan Tŷ Newydd hefyd yn ffurfio rhan bwysig o ddyletswyddau’r Gweinyddwr Prosiectau.

Lleolir y swydd yn Nhŷ Newydd a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fedru gweithio’n hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Dymunir i’r swydd gychwyn cyn gynted ag sy’n bosibl.

Mae’r penodiad am gyfnod o chwe mis ond, ar ôl y cyfnod cychwynnol hwn, gobeithir dod o hyd i adnoddau digonol i ymestyn y penodiad.

TÂL : £18,000 y flwyddyn (pro rata)

Cytunir ar yr oriau a’r telerau penodol gogyfer â’r swydd gyda’r ymgeisydd llwyddiannus.

PRIF DDYLETSWYDDAU
• Gweinyddu’r rhaglenni o gyrsiau Saesneg a Chymraeg (cysylltu â thiwtoriaid, marchnata a.y.)
• Gweinyddu’r prosiect Ysgrifennu mewn Gofal Iechyd (darparu cefnogaeth i’r Cyfarwyddwr Gweithredol)
• Darparu cefnogaeth weinyddol i’r Rhaglen Addysg a’r Rhaglen Ryngwladol
• Gofalu am wefan Tŷ Newydd

SGILIAU ANGENRHEIDIOL
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fedru:
• Gweithio’n llwyddiannus ar ei liwt ei hunan heb oruchwyliaeth
• Gweithio hefyd fel rhan o dîm clos Tŷ Newydd
• Gweithio hyd at lefel uchel o fedrusrwydd yn y Gymraeg a’r Saesneg
• Gweithio’n effeithiol a galluog yn y swyddfa a medru rheoli gwefan Tŷ Newydd.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus:
• Fod â thrwydded yrru lân a chyfredol
• Fod yn hyblyg parthed oriau gwaith

Byddai o fantais bod â chariad at lenyddiaeth a meddu ar wybodaeth o ysgrifennu Cymreig cyfoes.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener, 16 Hydref, 2009
Cynhelir cyfweliadau ar: Dydd Mercher, 21 Hydref 2009


Dylai ceisiadau fod ar ffurf llythyr gyda c.v. ynghyd ag enwau a chyfeiriadau dau ganolwr a dylid eu hanfon, wedi’u marcio’n gyfrinachol, at:

Sally Baker, Cyfarwyddwr Gweithredol, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd,
Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd. LL52 0LW
Tel: 01766 522811 Ffacs: 01766 523095
http://www.tynewydd.org
Olwen Dafydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 46
Ymunwyd: Iau 27 Tach 2003 4:47 pm
Lleoliad: Ty Newydd

Dychwelyd i Swyddi

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron