Datblygwr Gwefannau PHP, Caerdydd

Swyddi gwag cwmniau sy'n hysbysebu ar maes-e.
Rheolau’r seiat
Caiff unrhyw gwmni sydd wedi talu am hysbysebu ar maes-e, osod manylion unrhyw swyddi gwag yma am ddim yn ystod cyfnod yr hysbyseb. Os hoffe chi gymryd mantais o'r cynnig yma, pwyswch yma am y manylion llawn am sut i hysbysebu ar maes-e.

Datblygwr Gwefannau PHP, Caerdydd

Postiogan dafydd » Gwe 16 Ebr 2010 11:24 am

Mae cwmni Imaginet yn chwilio am ddatblygwr gwefannau i ymuno a'r tîm. Ni yw'r cwmni datblygu gwefannau mwyaf profiadol yng Nghymru (sefydlwyd yn 1995) a mae'n cleientiaid yn cynnwys rhai o brif sefydliadau Cymru yn ogystal a chwmniau mawr yn Lloegr a thu hwnt. Mae ein swyddfa braf wedi ei leoli yng nghanol Caerdydd.

Rydyn ni'n chwilio am ddatblygwr gyda o leia dwy flynedd o brofiad masnachol - dyma restr fer o'r cymwysterau:

Angenrheidiol
  • PHP, MySQL, Javascript, XHTML/XML, CSS
  • Fframweithiau fel Zend, jQuery
  • Defnydd o feddalwedd i ddatblygwyr fel NetBeans, Subversion
  • Profiad o ddatblygu gwefannau a CMS amlieithog

Yn ddefnyddiol
  • Profiad o gynnal gweinyddion Linux (Debian, Ubuntu, Solaris) a chyflunio Apache/PHP/MySQL + Exim/Postfix/Bind
  • Unrhyw dechnolegau eraill fel Perl, Java, C#, Actionscript

Mi fydd hysbyseb llawnach ar gael yn fuan ar ein gwefan. Gallwch ddanfon CV at swyddi@imaginet.co.uk neu cysylltwch â fi am fwy o wybodaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Dychwelyd i Swyddi

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron