Rydyn ni'n chwilio am ddatblygwr gyda o leia dwy flynedd o brofiad masnachol - dyma restr fer o'r cymwysterau:
Angenrheidiol
- PHP, MySQL, Javascript, XHTML/XML, CSS
- Fframweithiau fel Zend, jQuery
- Defnydd o feddalwedd i ddatblygwyr fel NetBeans, Subversion
- Profiad o ddatblygu gwefannau a CMS amlieithog
Yn ddefnyddiol
- Profiad o gynnal gweinyddion Linux (Debian, Ubuntu, Solaris) a chyflunio Apache/PHP/MySQL + Exim/Postfix/Bind
- Unrhyw dechnolegau eraill fel Perl, Java, C#, Actionscript
Mi fydd hysbyseb llawnach ar gael yn fuan ar ein gwefan. Gallwch ddanfon CV at swyddi@imaginet.co.uk neu cysylltwch â fi am fwy o wybodaeth.