
Oes aelod arall o'r maes yn cadw hwyaid neu ieir? Mae gyda ni 5 hwyaden a 7 iâr. Pan wnaethom ni brynu'r tyddyn bach, fe wnaeth y perchnogion blaenorol adael rhain ar eu hôl!
Ma'r ieir wedi bod yn dodwy lot yn ddiweddar. Dros y Gaeaf, dim ond un wy bob cwpwl o ddwrnode oedden ni'n cael, ond ddoe getho ni 5 wy mewn diwrnod.

Bues i'n adeiladu pwll bach yn fwy o faint i'r hwyaid dros y penwythnos hefyd, ond dim ond yr un frown allan o'r 5 sydd byth yn nofio. Credu mae Muscovy yw'r 4 gwyn/du/llwyd, a Mallard yw'r un frown.

Rhywun yn gwybod pa fath o blanhigion mae hwyaid yn hoffi? Neu pa blanhigion sy'n dda i'w plannu o amgylch y pwll?
Yw ieir yn hoffi unrhyw blanhigion yn arbennig?
Diolch am unrhyw help, dechreuwr ydw i gyda'r pethe 'ma!