Welais i'r hen gath acw'n gwneud rhywbeth hurt bost bore ma!
Rhyw fis yn ol, prynais ddwy goeden fechan a'u rhoi mewn potiau mawr go ddel, un bob ochor i'r drws cefn. Wrth gwrs, roedd ein ci stiwpid ni wedi penderfynu ei fod eisiau'u bwyta nhw, felly symudais y ddwy at ochor arall y ffens, fel nad oedd o'n gallu'u malu nhw 'n waeth nag oeddan nhw'n barod. (Ia, dwi'n gwybod bod cwn yn licio bwyta unrhywbeth sy'n debyg i laswellt!).
Wel, roedd y ci di malu un goeden gymaint fel doedd dim ar ol ohoni, dim ond rhyw dwy neu dair modfedd!
Bore ma, pwy welais yn gorwedd ar ben y pridd yn y pot ond y gath wirion acw, yn cysgu'n sownd. Roedd hi'n edrych mor hurt, wedi lapio'i hun rownd y bonyn coeden yn ddel. Welais i mohoni'n gneud hyn o'r blaen, ella bod y pridd yn gynnes braf yn yr haul? Mi fydd yn mynd i orwedd ar ben y sied weithiau, neu ar ben y bwrdd tu allan.
Ar ol gweld lle roedd hi bore 'ma, dwi'm yn meddwl y gwnai synnu lle'r eith hi nesa!