Tudalen 1 o 1

Cath hurt bost!

PostioPostiwyd: Sul 24 Mai 2009 7:38 pm
gan Orcloth
Welais i'r hen gath acw'n gwneud rhywbeth hurt bost bore ma!

Rhyw fis yn ol, prynais ddwy goeden fechan a'u rhoi mewn potiau mawr go ddel, un bob ochor i'r drws cefn. Wrth gwrs, roedd ein ci stiwpid ni wedi penderfynu ei fod eisiau'u bwyta nhw, felly symudais y ddwy at ochor arall y ffens, fel nad oedd o'n gallu'u malu nhw 'n waeth nag oeddan nhw'n barod. (Ia, dwi'n gwybod bod cwn yn licio bwyta unrhywbeth sy'n debyg i laswellt!).

Wel, roedd y ci di malu un goeden gymaint fel doedd dim ar ol ohoni, dim ond rhyw dwy neu dair modfedd!

Bore ma, pwy welais yn gorwedd ar ben y pridd yn y pot ond y gath wirion acw, yn cysgu'n sownd. Roedd hi'n edrych mor hurt, wedi lapio'i hun rownd y bonyn coeden yn ddel. Welais i mohoni'n gneud hyn o'r blaen, ella bod y pridd yn gynnes braf yn yr haul? Mi fydd yn mynd i orwedd ar ben y sied weithiau, neu ar ben y bwrdd tu allan.

Ar ol gweld lle roedd hi bore 'ma, dwi'm yn meddwl y gwnai synnu lle'r eith hi nesa! :lol:

Re: Cath hurt bost!

PostioPostiwyd: Sul 24 Mai 2009 8:50 pm
gan Hazel
Bydd cathod yn cysgu unrhyw le sy'n dwym, neu feddal neu, hyd yn oed, ffit dynn. A ydych chi'n gwybod pam rhoddodd Duw liniau iddi ni? Fel y gall cathod gael rhywle i gysgu. :)

Re: Cath hurt bost!

PostioPostiwyd: Maw 26 Mai 2009 5:25 am
gan Mali
Orcloth....mae'n debyg fod dy gath di'n meddwl fod y llecyn yn y potyn wedi cael ei baratoi yn arbennig ar ei chyfer hi ! :winc: Mae ein cath ddu yn hoff iawn o'n gwely ni , ac unrhyw dro y byddwn yn gadael rhywbeth tebyg i siaced neu sweater ar dop y gwely , mi fydd hi'n gwneud nyth bach iddi hi eu hun arno , yn rholio i fyny ac yn mynd i gysgu.

Hazel .. yn hoffi'r dywediad yn fawr iawn. :D

>^..^<

Re: Cath hurt bost!

PostioPostiwyd: Maw 26 Mai 2009 9:09 am
gan Orcloth
Tydi'n cath ni'm yn licio gorwedd ar dy lin, na chael mwytha o gwbwl a deud y gwir! Un gwyllt iawn ydi o, yn hoff iawn o godi'i bawennau a'th gripio os ti'm digon sydyn i'w osgoi! Tydio mond isio'i fwytho dipyn bach pan mae o isio'i fwyd! Mae o hefyd yn licio hela yn ystod y nos - ac yn dwad a phresantau bach i ni erbyn y bore - rhai diweddar oedd dwy lygoden fawr a cyw deryn! (Am rhyw reswm, tydio'm yn eu bwyta, dim ond eu gadael yn yr ardd!).

Dim ein cath ni ydi o i ddeud y gwir - roedd o'n byw dros ffordd i ni hefo cwn a chathod eraill (a dau o hogia rheibus!), ond mae'n rhaid ei fod wedi penderfynu dod atom ni i fyw am ei bod dipyn distawach yma. (Roedd hyn ym mis Tachwedd 2007, cyn i ni gael y ci ym mis Mehefin 2008).

Un od iawn ydi Jimi ni, ngwas i! :D

Re: Cath hurt bost!

PostioPostiwyd: Maw 26 Mai 2009 10:30 am
gan Hazel
Orcloth a ddywedodd:
Tydi'n cath ni'm yn licio gorwedd ar dy lin, na chael mwytha o gwbwl a deud y gwir!


Unwaith, roedd gen i gath fel hynny. Dywedodd y milfeddyg bod y gath yn sgitsoffrenig. Roedd eisiau arno i chael ei gwared â hi. Nage! Roedd hi'n byw deunaw mlynedd. Roedd hi'n wyllt yn wir.

Re: Cath hurt bost!

PostioPostiwyd: Maw 26 Mai 2009 10:57 am
gan Hazel
Mali a ddywedodd:Orcloth....mae'n debyg fod dy gath di'n meddwl fod y llecyn yn y potyn wedi cael ei baratoi yn arbennig ar ei chyfer hi ! :winc: Mae ein cath ddu yn hoff iawn o'n gwely ni , ac unrhyw dro y byddwn yn gadael rhywbeth tebyg i siaced neu sweater ar dop y gwely , mi fydd hi'n gwneud nyth bach iddi hi eu hun arno , yn rholio i fyny ac yn mynd i gysgu.

Hazel .. yn hoffi'r dywediad yn fawr iawn. :D

>^..^<


Beth am y ddillad y wyt ti newydd eu cymryd nhw allan o'r troellwr? :D

Re: Cath hurt bost!

PostioPostiwyd: Maw 26 Mai 2009 3:50 pm
gan Mali
Hazel a ddywedodd:
Mali a ddywedodd:Orcloth....mae'n debyg fod dy gath di'n meddwl fod y llecyn yn y potyn wedi cael ei baratoi yn arbennig ar ei chyfer hi ! :winc: Mae ein cath ddu yn hoff iawn o'n gwely ni , ac unrhyw dro y byddwn yn gadael rhywbeth tebyg i siaced neu sweater ar dop y gwely , mi fydd hi'n gwneud nyth bach iddi hi eu hun arno , yn rholio i fyny ac yn mynd i gysgu.

Hazel .. yn hoffi'r dywediad yn fawr iawn. :D

>^..^<


Beth am y ddillad y wyt ti newydd eu cymryd nhw allan o'r troellwr? :D


Weithiau Hazel, ac mae'n debyg eu bod yn dal i fod yn gynnes , felly'n siwtio'r gath ddu i'r dim ! Ond fel arfer mi wnaiff unrhywbeth y tro .....sgarff wedi ei daflu ar y gwely er enghraifft. :D