Tudalen 1 o 1

Y Coran yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 20 Rhag 2004 10:55 am
gan sanddef
Gwelair ar newyddion BBC Cymru rhywbryd yn 1989 neu 1990 adroddiad am gyfieithiad o'r Coran (Al Quhran) yn Gymraeg.
Yn ddiweddar,a finnau eisiau cael copi Cymraeg o un o glasuron llenyddiaeth y byd,methais a chael unrhyw wybodaeth o gwbl ynglyn a bodolaeth y llyfr.Dim byd ar gyfrifiadur y Llyfrgell,Dim byd yng nghatalog y siop Gymraeg,a dim byd ar Google.
Oes unrhywun yn eich plith sy'n gwybod?

PostioPostiwyd: Iau 30 Rhag 2004 1:34 pm
gan sian
Rwy wedi holi'r fforwm trafod termau Welsh Termau Cymraeg gan gyfeirio at y cais hwn.
Mae rhai o'r cyfrannwyr yno'n eithaf gwybodus! Fe ddof i nôl os bydd ymateb.

PostioPostiwyd: Iau 13 Ion 2005 4:01 pm
gan Gwen
Dwi ddim wedi clywed am gyfieithiad cyflawn, ond fe gyhoeddwyd 'Adnodau detholedig o'r Qur'an Sanctaidd' yn 1989. Dyna'r agosa am wn i.

Y cyhoeddwyr

PostioPostiwyd: Sul 21 Ion 2007 12:30 am
gan Crachffinant
Dyma'r manylion am y llyfr:
'Adnodau detholedig o'r Quran Sanctaidd', Islam International Publications Ltd, 1988. Rhif ISBN: 1 85372 131 X
Gobeithio fod hynny o ddefnydd i rywun. Dwi ddim yn gwybod os dy o dal mewn print. Ges i gopi yn ddiweddar ar ol siarad a rhywun sy'n gweithio mewn siop elusen leol ac mi roddodd o gopi imi. Mwslim dy o, yn perthyn i Gymuned Fwslim Ahmadiyya, sy'n enwad ar ymylon Islam - rhai pobl cul yn meddwl bod nhw'n yn hereticiaid! Roedd o'n son bod nhw'n meddwl am gael rhywun i gyfieithu'r llyfr cyfan i'r Gymraeg. Dydi'r 'Adnodau' ei hun ddim yn berffaith - camgymeriadau'r argraffwyr mae'n debyg- ac mae'r iaith braidd yn hen ffasiwn a thywyll. Deudodd fy ffrind mai rhyw gwnidog ddaru gyfieithu o. Hen bryd i ni gael y Coran yn Gymraeg beth bynnag. Dwi ddim yn Fwslim fy hun ond mae'n gas gen i'r awyrgylch 'erlid gwrachod' sy gynnom ni'r dyddiau hyn.
ON Dyma'r cyfeiriad yn y llyfr -
The London Mosque,
16 Gressenhall Road,
Llundain SW 18.
Mond llyfr bach dy o. Dwi'n meddwl bod nhw'n rhoid o allan yn rhad ac am ddim.

PostioPostiwyd: Mer 24 Ion 2007 9:08 pm
gan Dylan
ydi o'n gyfieithiad uniongyrchol o'r Arabeg, tybed? Ynteu via'r Saesneg?

Cyfieithu

PostioPostiwyd: Iau 01 Maw 2007 2:04 am
gan Crachffinant
Dwi ddim yn gwybod i sicrwydd ond fwy na thebyg mae wedi'i gyfieithu o'r Saesneg neu ar y cyd gyda siaradwr Arabeg. Mae cyfieithu Arabeg y Coran - iaith glasurol gyda nifer o eiriau arbennig ag iddyn nhw sawl ystyr yn ol eu cyd-destun, a.y.y.b. - yn waith anodd dros ben hyd yn oed i rywun sy'n siarad Arabeg modern yn rhugl. Oes gennym ni ysgolhaig sydd i fyny i'r dasg? Y dewis ail orau ydi cael Cymro/Cymraes gweddol rugl yn yr Arabeg i gyd-weithio ag ysgolhaig Arabeg. Mae nifer o Fwslemiaid uniongred - a dwi ddim yn son am eithafwyr cul o reidrwydd - yn erbyn cyfieithu'r Coran o gwbl am fod yr ystyr yn cael ei golli mewn cyfieithiad (cofiwch fod y Coran yn "air Duw" yn llythrennol iddyn nhw: dim ond ei gofio a'i drosglwyddo wnaeth Mohamed).

Fodd bynnag mae'n bryd inni gael o yn Gymraeg. Mae'r un peth yn wir am sawl 'clasur' arall hefyd. Hen bryd inni gael rhywbeth tebyg i'r gyfres ''Penguin Classics'' yn Gymraeg, am bris o fewn cyrraedd pawb!

Re: Y cyhoeddwyr

PostioPostiwyd: Sad 08 Ion 2011 12:04 am
gan Cymrobalch
Crachffinant a ddywedodd:Dyma'r manylion am y llyfr:
'Adnodau detholedig o'r Quran Sanctaidd', Islam International Publications Ltd, 1988. Rhif ISBN: 1 85372 131 X
Mond llyfr bach dy o. Dwi'n meddwl bod nhw'n rhoid o allan yn rhad ac am ddim.


Oni bai bod rhywun o hyd yn chwilio am hon, mae cyswllt wê i'r cyhoeddiad yma fel PDF yma - http://66.250.64.42/quran/selected-verses/Welsh.pdf

Re: Y Coran yn Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 30 Hyd 2017 10:10 am
gan løvgreen
Neu yma, o ran diddordeb: https://www.alislam.org/quran/selected-verses/Welsh.pdf

Ond dio ddim yn wych.