Paradwys

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Paradwys

Postiogan Chris Castle » Sad 31 Mai 2003 2:41 pm

Dwi newydd ddechrau darllen Paradwys gan William Owen Roberts. Unrhywun arall am ymuno â fi yn y taith, neu wedi ei orffen. Mae'r tudalennau gyntaf yn haws na Y PLA, ond dyw cario'r peth adre o'r siop ddim!
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Alys » Sul 01 Meh 2003 6:22 pm

Mae gen ar y silff ers tipyn, dim wedi mentro ei ddechrau eto :wps: .
Rho wybod be wyt ti'n feddwl!
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan nicdafis » Sul 01 Meh 2003 6:54 pm

Wnes i ddarllen hanner ohono, a mwynhau, ond wnes i ddim ei orffen (bishi gyda gwaith coleg ar y pryd) ac aeth e nôl i'r llyfrgell. Hoffwn i ddechrau 'to.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan jimkillock » Sul 08 Meh 2003 10:19 am

Dwi' darllen hyn hefyd ... doniol a gwrieddiol eto hyd y chwarter cytaf ... ydy pobl wedi darllen ei lyfr 'hunan-gofiant' hefyd? creulon iawn at y Cymry parchus!
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Chris Castle » Mer 11 Meh 2003 2:50 pm

Dal ati ydw i (tua hanner ffordd trwyddo) ond gwneud pethau eraill ydw i hefyd sy'n fy rhwystro - esgus Roberts am gymryd mor hir i'w orffen oedd hynny wrth gwrs. Mae'n wych. Se ti'n hoffi'r pla basai'n dy blesio. Dwi wedi astudio'r cyfnod dan sylw a mae fe'n gwbod ei stwff am feddyliau'r pobl yma.

Mae'n cadw di ar dy fysedd traed hefyd - Pwy dych chi'n credu sy'n dweud y gywir? ayyb. Mae dull Brechtaidd o wahanu'r darllenwr oddi wrth y cymeriadau'n gweithio yn da iawn hefyd - dwi'm hoffi neb yn y llyfr- sy'n dy orfodi di i feddwl yn ddwfn am y pethau sy'n digwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Alys » Mer 11 Meh 2003 3:38 pm

Diolch am y sbardun Chris, dwi rhyw hanner ffordd trwyddi fy hun rwan, ar ôl iddi fod ar y silff stalwm :wps: ac yn cytuno ei bod yn wych. Wnaeth hi ddim cydio ynof i run ffordd â'r Pla i ddechrau, rhaid imi ddeud, ond dwi'n ei mwynhau'n llawer erbyn hyn
Dwi'n cytuno hefyd hefo Jim am Hunangofiant (licio'n arbennig y stori am y Cymraes a'r ferch o Ariannin yn cyfnewid llythyrau).
Oes rhywun di darllen Bingo hefyd? Mi ges i gopi mewn sêl cist ceir yng Nghricieth unwaith, ynghanol y llwythi arferol o hen lestri a gemau plant ayb., sy bron mor rhyfedd â'r llyfr ei hun ...
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan jimkillock » Sul 15 Meh 2003 3:06 pm

Bingo .. mae allan o brint tydi? isio cael copi rhywbryd ... ie efo'r stori Ariannin, wnes i ddarllen llyfr Robin llywelyn o straeon byr ar fwy neu lai'r un pryd, mae gynno fo stori am yr Ariannin hefyd 'does .. diddorol gwhaaniaeth - mae'r stori R Ll yn serious, ond ddim cymaint o sioc (wedi'r holl chwerthin yn stori WO Roberts ..). Wnes i licio stori olaf yn hunangofiant am y cyfryngis er oedd y fersiwn teledu yn wan wrth gymharu fel dwi'n cofio. Peth gorau oedd pan oeddwn nhw'n cwyno nad oedd neb yn y ffrainc yn siarad Saesneg fel pawb call.
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Alys » Llun 16 Meh 2003 3:50 pm

Ia am wn i mae Bingo allan o brint, dyna pam ro'n i mor falch o'i gael mewn sel cist ceir yng Nghricieth!
Wyt ti'n cymysgu straeon Robin Llywelyn a Wil Roberts? Dwi'n cofio i'r stori yn Hunangofiant fod yn fwy difrifiol (er amser maith imi ei darllen) a'r un yn y Dwr Mawr Llwyd yn ddoniol tu hwnt...
Dwi ddim wedi gweld y rhaglen deledu, ond cytuno fod y stori am y trip i Ffrainc yn wych!
Dal i fwynhau Paradwys ...
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan jimkillock » Llun 16 Meh 2003 11:18 pm

Yn un Wiliam Roberts, mae cyfres o lythyrau, ia? mae'n troi yn ddu dros amser, ac mae'r ddynes yng Nghymru'n cywiro Cymraeg y llall ac yn cael ysbrydolaeth o hanes yr Wladfa a dweud pa mor dda fuasai mynd i'r Ariannin a dianc o Gymru 79 a'r refferendwm. Rôn i wedi anghofio'r stori arall ond mae o am rhywun oedd yn lluchio pobl i mewn i'r môr o awyren - run ffaith yn stori Wiliam roberts dwi meddwl.

Falch bod ti a pawb eraill yma yn mwynhau'u stwff .. mae Wiliam Roberts a Robin llywelyn yn eu ffyrdd gwahanol yn swgwennu cystal â stwff gorau Saesneg. (Dim y safon ond yn nifer sy'n llai yn y Gymraeg .. pwynt pwysig, credwn i).
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Alys » Maw 17 Meh 2003 8:10 am

Ia, cyfres o lythyrau'n troi'n dduach wrth fynd ymlaen a'r Cymraes yn anwybyddu'r pethau hyll sy'n cael eu hawgrymu.
Ond dwi ddim yn cofio unrhyw un yn cael eu lluchio allan o awyrennau :? (neu hwrach mod i di anghofio - hen bryd imi ei hailddarllen, debyg :winc: ).
Dwi'n cytuno efo be ti'n deud am ansawdd ein hawduron gorau fod cystal ag awduron unrhyw iaith/traddodiad. Mae trafodaeth mewn <a href="http://morfablog.com/fforwm/viewtopic.php?t=1207">edefyn arall</a> am gyfieithu barddoniaeth ac fel mae'n colli rhywbeth trwy'i chyfieithu; mae'r un peth yn wir am ryddiaith faswn i'n deud, yn arbennig rhyddiaith lle mae'r arddull yn bwysig, tydi o ddim yr un peth o gwbl (e.e. cyfieithiad y Pla a Harbwr Gwag Robin Llywelyn, ac hefyd ambell i gyfrol o straeon byrion).
Ac eto dwi'n credu fod cyfieithu'n bwysig i roi gwybod i bobl eraill fod llenyddiaeth Gymraeg yn bodoli, mor wych ac o ansawdd mor uchel - er nad ydyn nhw'n cael y profiad llawn (nes iddyn nhw ddysgu'r Gymraeg wrth gwrs!).
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai