Paradwys

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan jimkillock » Mer 18 Meh 2003 10:31 am

cael eu lluchio allan o awyrennau

dyna sut "diflanwyd" pobl gan y llywodraeth .. rhoi cyffuriau iddyn nhw, rhoi nhw mewn awyren ac wedyn lluchio nhw allan dros y môr.
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Alys » Mer 18 Meh 2003 10:53 am

Ia, wir, sori camddealltwriaeth, meddwl mai am stori R Ll o't ti'n sôn ...
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Alys » Sul 29 Meh 2003 10:36 am

Dwi wedi gorffen Paradwys rwan. Dwi'n cytuno hefo be dwedodd Chris uchod - roedd yn llyfr gwych. Haenen ar haenen o dwyll, mwy o dwyll a hunan-dwyll, ffordd ardderchog o ddangos sut oedd y bobl anfoesol hynny'n ceisio cyfiawnhau'r pethau hyll oeddan nhw'n wneud. Ac er mod i'n chael hi tipyn bach yn araf yn y dechrau (oherwydd gorfod cyflwyno'r holl gymeriadau a sefyllfaoedd cymhleth na, mae'n debyg) erbyn y diwedd roedd wedi datblygu i fod yn andros o stori dda hefyd, rôn i'n methu ei roi i lawr. Ambell i dro gwbl annisgwyl hefyd. Sut mae'n mynd hefo chdi Chris? Rhywun arall yn/wedi ei ddarllen?
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Re: Paradwys

Postiogan sian » Sad 17 Ion 2009 10:39 pm

Rhywun wedi gorffen Petrograd?
Dw i wedi darllen rhyw gan tudalen ac yn cael blas mawr arni.
Catrin Beard yn canmol i'r cymylau.
Llyfr y Flwyddyn?

Dw i ddim wedi darllen y Pla ar ôl i ffrind awgrymu nad o'n i'n ddigon deallus i'w gwerthfawrogi hi.
Rhaid i mi drio.

Dw i byth wedi gorffen Paradwys - dyw e ddim yn llyfr y galli di ddarllen tudalen neu ddwy cyn cysgu - ac anaml fydda i'n cael cyfle i eistedd i lawr i ddarllen. Rhaid i mi wneud. Roedd y dechrau'n gyfoethog iawn.

Fe bwdais i â'r "Hunangofiant" am iddo ddweud rhywbeth cas am Drefor. :crechwen:
Ond roedd y stori am Ariannin yn iasol.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Paradwys

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Llun 26 Ion 2009 8:55 pm

Dwi wrthi'n darllen Petrograd (presant gan Sion Corn)... dwi tua hanner ffordd ac yn ei mwynhau'n ofnadwy. Sna'm byd gwell na nofel fawr dew...


Heb ddarllen run o'r lleill. Ella nai drio rol gorffen hon.
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Nôl

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron