Ia, cyfres o lythyrau'n troi'n dduach wrth fynd ymlaen a'r Cymraes yn anwybyddu'r pethau hyll sy'n cael eu hawgrymu.
Ond dwi ddim yn cofio unrhyw un yn cael eu lluchio allan o awyrennau
(neu hwrach mod i di anghofio - hen bryd imi ei hailddarllen, debyg
).
Dwi'n cytuno efo be ti'n deud am ansawdd ein hawduron gorau fod cystal ag awduron unrhyw iaith/traddodiad. Mae trafodaeth mewn <a href="http://morfablog.com/fforwm/viewtopic.php?t=1207">edefyn arall</a> am gyfieithu barddoniaeth ac fel mae'n colli rhywbeth trwy'i chyfieithu; mae'r un peth yn wir am ryddiaith faswn i'n deud, yn arbennig rhyddiaith lle mae'r arddull yn bwysig, tydi o ddim yr un peth o gwbl (e.e. cyfieithiad
y Pla a
Harbwr Gwag Robin Llywelyn, ac hefyd ambell i gyfrol o straeon byrion).
Ac eto dwi'n credu fod cyfieithu'n bwysig i roi gwybod i bobl eraill fod llenyddiaeth Gymraeg yn bodoli, mor wych ac o ansawdd mor uchel - er nad ydyn nhw'n cael y profiad llawn (nes iddyn nhw ddysgu'r Gymraeg wrth gwrs!).