Dwi'n astudio'r nofel ar hyn o bryd. Dwi'n credu ei bod hi'r nofel fwya under-hyped erioed.
Mae hi'r nofel orau i mi ei darllen erioed mewn unrhyw iaith. Dwi'm 'di gweld dim byd mor dynn, mor berffaith ei chynllun, efo iaith mor gyfoethog, efo cymaint o blethiadau a chlymau drwyddi, efo'r fath dynfa emosiynol, efo'r fath allu i neud i mi fynd yn wallgo. Mae'r rhagfarn sy yn ei herbyn hi yn rwtsh - cynllun blêr? Fy nhîn blewog meddal. Anodd ei deall? Raid bo fi'n colli rwbath.
Ddylan ni fod ar ben toea yn dathlu am fod gynnon ni'r fath nofel yn ein hiaith. Ond eto dan ni'r math o genedl sy'n deud mai Cysgod y Cryman ydi llyfr ein canrif ac yn dathlu gwaith llenorionifancecseiting crap pan mae 'na stwff mor wefreiddiol â hyn wedi'i gyhoeddi gan y fath athrylith. Dwi jyst ddim yn dallt.
Mae o fel cyfuniad o Aled Jones Williams, Robin Llywelyn ac Alun Llên Llŷn wedi'i chwyddo gant saith deg tri o weithia. A da chi'n deud y dylia fo fod yn modesd?!