Tudalen 1 o 7
Beth yw'ch hoff linell mewn cerdd?
Postiwyd:
Maw 22 Chw 2005 9:06 pm
gan Aranwr
Mmmm... tricky!
Gwenllian - Myrddin ap Dafydd yw'n hoff gerdd i... so... ma'n rhaid mai
"Yno'n siol ar ei hol hi"
yw'r linell.
Rhwbeth hudol ambiti ddi!
Postiwyd:
Maw 22 Chw 2005 10:35 pm
gan Hogyn o Rachub
"Mae'r goeden eleni yn hen, ond derwen yw hi"
dwy linell yn hytrach nac un, sy'n dod o "Y Gwladwr' gan Gerallt Lloyd Owen.
Postiwyd:
Maw 22 Chw 2005 10:57 pm
gan Treforian
Beth am
"ISO'N FY MYW SION FY MAB!" (lewis glyn cothi)
?
Angerdd ta be?
Postiwyd:
Mer 23 Chw 2005 9:09 am
gan Beti
"Ar wedi elwch, tawelwch fu."
Aneurin.
Postiwyd:
Mer 23 Chw 2005 9:10 am
gan Beti
AC sori, nid ar! Doh! Teipo - wir yr!
Postiwyd:
Mer 23 Chw 2005 9:40 am
gan Gowpi
'Tri Sais mewn gwely drewsawr'
Dafydd ap Gwilym - Trafferth mewn tafarn
Y Gorwel
'Llinell bell nad yw'n bod, hen derfyn nad yw'n darfod'
Postiwyd:
Mer 23 Chw 2005 9:55 am
gan Mr Gasyth
Lot o rai THPW sy'n dod i'r meddwl:
'Ni wnawn wrth ffoi am byth o'n ffwdan ffol
Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn ol'
a
'Beth ydwyt ti a minnau frawd
Ond swp o esgyrn mewn gwisg o gnawd'
ella fod yr ail un yne ddim cweit yn gywir
Postiwyd:
Mer 23 Chw 2005 9:58 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mr Gasyth a ddywedodd:'Ni wnawn wrth ffoi am byth o'n ffwdan ffol
Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn ol'
Snap.
Postiwyd:
Mer 23 Chw 2005 10:49 am
gan Iesu Nicky Grist
Dou - un o ginge mwya Cymru, G.LL.O. - "Ma lle i fots, ma lle i fatsien" a'r llall o rywle...
"Ni pherthyn i fiwsig ffiniau caeth dadrith ein daear ni." - dweud y gwir, o's modd i rywun ddweud wrthai o lle daw hon?
Postiwyd:
Mer 23 Chw 2005 2:48 pm
gan Sian Northey
But still, like dust, I rise
Maya Angelou
Amrywio o ddydd i ddydd yn Gymraeg ond heddiw dwi'n meddwl mai
Swn cusan hir yn enw'r lle
(Far Rockaway - Iwan Llwyd)