Tudalen 5 o 7

PostioPostiwyd: Gwe 27 Ion 2006 10:53 pm
gan Twpsan
Un sy`n dod i`n nghof i ydy hwn o 'Y Cymwynaswr' gin Ceri Wyn JOnes -

"A`i groen yn llawn Gweriniaeth"

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 1:10 am
gan Iestyn ap
....Tudfwlch Hir, ech ei dir a'i drefydd
Ef lladdai Saeson seithfed dydd.

Ymlaen i weriniaeth Rheged a Gododdin, er tua mil a hanner o flynyddoedd yn rhy hwyr. :?

Yn ol y son, roedd yr hen Ogledd dal wrthi yn siarad Brythoneg Cymraeg tan y G10.

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 10:22 am
gan Mabon.Llyr
Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng.

Hoffi hwn.

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 10:23 am
gan ffrwyth melys!
'Gwerth Cynydd yw gwarth cendl,
A'i hedd yw ei hangau hi' - GLLO - Athrylith.

'...rhown y byd i gyd i gael
un haf tu hwnt i afael
y gwr nad yw ond geiriau
a'r geg nad yw fyth ar gau' - 'Cydwybod' - Mei Mac.

For Me Anyway - gan Colin Hamilton
'For me anyway
the secret seems to be
that all I am is me
and me is all I'll ever be.' - syml ond effeithiol!

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 10:33 am
gan Rhys Llwyd
"Nid ie a nage yw." - Pantycelyn

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 2:15 pm
gan dawncyfarwydd
Swn i'n licio medru deud Dychwelyd, ond mae'r neges sydd wedi'i chyfleu mor ffantastic yn y gerdd yn rwtsh yn fy marn i!

Felly mae hi rhwng Hiraethog a Gerallt a Waldo a Steve Eaves:
'Gras a chariad megis dilyw
yn ymdywallt yma 'nghyd
a chyfiawnder pur a heddwch
yn cusanu euog fyd.'

neu

'Fy Nghwlad, fy Ngwlad cei fy nghledd
yn wridog dros d'anrhydedd.'

neu

'Daw dydd y bydd fawr y rhai bychain,
daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr,
daw'r bore na w

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 4:26 pm
gan Hogyn o Rachub
dawncyfarwydd a ddywedodd:'Daw dydd y bydd fawr y rhai bychain,
daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr,
daw'r bore na w

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 6:44 pm
gan Twpsan
Nid oes neb erioed a gydymdeimlodd a phoen.

Allan o 'Siwan' - dwi`n gwybod mai drama ydy hi ond ma fy Lefel AS Cymraeg yn deud bod Saunders Lewis yn ei hystyried hi fel cerdd!

PostioPostiwyd: Sad 28 Ion 2006 7:14 pm
gan dawncyfarwydd
A! S

PostioPostiwyd: Sul 29 Ion 2006 7:22 pm
gan Dili Minllyn
"Y ffyliaid gwirion, oni wyddent hwy
Fod pen ar bopeth ar y ddaear hon,
Mai byr barhad sydd i bob newydd sbon?"

Y Rhufeiniaid, Thomas Parry Williams