Tudalen 6 o 7

PostioPostiwyd: Sul 29 Ion 2006 7:46 pm
gan Creyr y Nos
Twpsan a ddywedodd:Nid oes neb erioed a gydymdeimlodd a phoen.

Allan o 'Siwan' - dwi`n gwybod mai drama ydy hi ond ma fy Lefel AS Cymraeg yn deud bod Saunders Lewis yn ei hystyried hi fel cerdd!


Siwan a cherddi eraill yw enw'r gyfrol yndyfe, - mi oedd Saunders yn ei gweld hi fel cerdd, dwi'n meddwl. Itha reit fyd, ma barddoniaeth wych ynddi!

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 3:40 am
gan Mali
Does 'na ddim llawer o lenyddiaeth dwi'n gofio o ddyddiau ysgol , heblaw am rai wn

PostioPostiwyd: Llun 30 Ion 2006 5:25 pm
gan cawod o ser
O ni isio crio pan ddarllenais i hon ( darn o can Nia gan Nesta Wyn Jones )

Taflaf flodau
Ar y tonnau...
Gwrando ar y mor a'i ru.
Does ond dyfnder mor all ddirnad
maint fy ngholled i.

Ag yn saesneg dwi'n licio'r linell

Perdition Catch my soul (Shakespeare)

PostioPostiwyd: Maw 07 Chw 2006 2:44 am
gan Hen Rech Flin
ATGO

Dim ond lleuad borffor
Ar fin y mynydd llwm;
A swn hen afon Prysor
Yn canu yn y cwm.

Ydy Dawncyfarwydd yn dal yn aelod o'r seiat?

PostioPostiwyd: Maw 07 Chw 2006 9:12 am
gan Creyr y Nos
Ai, fi'n lico honna fyd HRF, mor syml ond mor effeithiol.

PostioPostiwyd: Maw 07 Chw 2006 4:31 pm
gan dawncyfarwydd
Hen Rech Flin a ddywedodd:Ydy Dawncyfarwydd yn dal yn aelod o'r seiat?
Am wn i te :ofn: Pam ti'n holi?

Dwi'n hoff iawn o'r glasur yma o linell ar hyn o bryd, pinacl cynganeddu Saesneg heb os:

Fuck off you cunt.



Dim cysylltiad rhwng dwy ran y neges - rhag i neb ddarllen rhwng y llinellau!!

PostioPostiwyd: Maw 07 Chw 2006 4:49 pm
gan khmer hun
Pan chi'n teimlo bod hi'n ddiwedd y byd arnoch chi, ma llinell gynta' cerdd Gerald Manley Hopkins yn siwtio i'r dim...

NO worst, there is none. Pitched past pitch of grief,
More pangs will, schooled at forepangs, wilder wring.
Comforter, where, where is your comforting?
Mary, mother of us, where is your relief?
My cries heave, herds-long; huddle in a main, a chief
Woe, world-sorrow; on an age-old anvil wince and sing

PostioPostiwyd: Maw 07 Chw 2006 7:46 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
hoff linnell - steve eaves.

"Breuddwydio am yfory, ac anghofio am ddoe"

allan o'r gan Traws Cambria. ma na lods linella barddonol neis yn honno. ffefryn arall di

"Does ganddi hi ddim breuddwyd" ond ma honna'n drist fyd.

PostioPostiwyd: Sad 11 Chw 2006 11:38 am
gan Iwan Rhys
Nid hir prentisiaeth angof:
Daw ei chrefft yn haws bob dydd.

Saunders, Boldeuwedd, fi'n credu, neu Siwan.

Am epigram! Hyd yn oed yn well os bydde fe wedi ei gynganeddu! :winc:

PostioPostiwyd: Sad 11 Chw 2006 6:04 pm
gan Llio Mad
Ma' gen i lawar o hoff linnellau... Ga'i eu rhoi nhw i gyd?

"Rhyfeddach fyth, O haul sy'r tu allan i'r garn,
Fai'it aros lle rwyt a chadw Dyn yn ei deiau."

o Soned Rhyfeddodau'r Wawr, R.Williams Parry

Gwerth cynydd yw gwarth cenedl,
A'i hedd yw ei hangau hi"

WAW!! Geiria anfarwol!! o Etifeddiaeth, Gerallt Lloyd Owen

"Clywsant am ferch a wnaed o flodau'r banadl
Heb fawr gydwybod ganddi, dim ond anadl"

o Dyffryn Nantlle Ddoe a Heddiw, R.Williams Parry