Tudalen 7 o 7

Hoff linell

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 10:02 am
gan Siocled
Am gwestiwn! Rhai o'n ffefrynnau i wedi bod erioed ydi gweithiau Gerallt Lloyd Owen, fatha amryw i un arall fel dw i'n gweld! Mi ydw i wrth `y modd hefo 'Fy ngwlad' ac 'Etifeddiaeth', ond dw i hefyd yn licio'r gerdd sgerbwd milwr, yn enwedig y llinell hon-
"Y bysedd fu'n cribo iasau drwy wallt yr un a wyddai'n ein chalon na ddychwelai
Bu'r dwylo hyn yn barod i ladd."- gobeithio bod honna'n weddol gywir!

Ffefryn arall sgen i ydi'r gerdd Gwladys Rhys, a fedrai'm yn fy myw gofio pwy ydi'r awdur ar y funud! Mae diweddglo hon yn wych yn fy marn i, lle da chi'n cael darlun ohoni'n cyfarch y darllenydd y tu hwnt i'r bedd wrth dalcen capel Horeb.- Mae nhw'n linellau gwych!- Allith rywun ddyfynnu i mi?

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 10:22 am
gan Jon Bon Jela
"Paham y rhoddaist inni'r tristwch hwn?"

"Duw

Re: Hoff linell

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 10:30 am
gan khmer hun
Siocled a ddywedodd:Ffefryn arall sgen i ydi'r gerdd Gwladys Rhys, a fedrai'm yn fy myw gofio pwy ydi'r awdur ar y funud!


WJ Gruffydd (1881 - 1954)

'Am hynny, deithiwr, yma rwyf yn gorwedd
Wrth dalcen Capel Horeb, - Gwladys Rhys,
Yn ddeg ar hugain oed, a 'nhad a 'mam
Yn pasio heibio i'r Seiat ac i'r Cwrdd,
Cyfarfod Gweddi, Dorcas, a phwyllgorau
Cymdeithas Ddirwest Merched Gwynedd; yma
Yn nyffryn angof, am nad oedd y chwa
A glywswn unwaith o'r gororau pell
Ond sw^n yn gwynt yn cwyno yn y pi^n.'


Mae na rywbeth cyfoes ynddo fe o hyd, does? Fel te ryw ferch ifanc wedi ysu am gael teithio'r byd wedi gorfod aros yn rhywle fel Nantlle i gynnal Merched y Wawr, yr ysgol feithrin a'r cwrdd bach gyda'i mam.

Re: Hoff linell

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 1:26 pm
gan Siocled
khmer hun a ddywedodd:Mae na rywbeth cyfoes ynddo fe o hyd, does?


Mae hi'n gerdd ddirdynnol- rywbeth yni hi sy'n `y nghal i bob tro dw i'n ei darllen hi. Tristwch- emosiwn lle ma'r Cymry i'w gweld ar eu gora` bob tro yn rhyfedd iawn! :crio:

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 1:43 pm
gan Creyr y Nos
Dwi'n cofio cael darlith gan Jason (neu Damien, sori sai'n cofio pa un!)Walford Davies ar drip y chweched ym Mangor a oedd yn cymharu Gwladys Rhys da Eleanor Rigby, can y Beatles.

"wearing a face that she keeps in a jar by the door"

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 1:58 pm
gan Siocled
Creyr y Nos a ddywedodd:Dwi'n cofio cael darlith gan Jason (neu Damien, sori sai'n cofio pa un!)Walford Davies ar drip y chweched ym Mangor a oedd yn cymharu Gwladys Rhys da Eleanor Rigby, can y Beatles.

"wearing a face that she keeps in a jar by the door"


Do, wedi clywed y gymhariaeth yna fwy nag unwaith. A deud y gwir, ges i ddarlith `fo JASON Walford Davies ar y gerdd flwyddyn dwytha`! Mae `na debygrwydd mawr yn y ddwy- Eleanor Rigby yn fersiwn cyfoes o'r un syniad bron. - 'All the lonely people, where do they all come from?' Hon `di un o `nghaneuon gorau i gen y Beatles a deud y gwir... gweld rhyw batrwm yn datblygu'n fama!

PostioPostiwyd: Mer 22 Chw 2006 2:24 pm
gan Dwlwen
Ach, ma Gwladys Rhys yn gerdd hynod. Wy'n hoff iawn o 'Cefn Mabli' hefyd. Ma Gruffydd yn wych am gyfleu annigonedd nagyw...

Saesneg yw'n rhai i though - "Soon, we shall have no time for dances", o the Sunlight on the Garden gan Louis Macneice. Ma'r odl yn y gerdd yma yn anhygoel, a phrydferthwch golwg y bardd o'r 'diwedd'/rhyfel/ymadawiad ei wraig jyst mor hyfryd...
And not expecting pardon,
Hardened in heart anew,
But glad to have sat under
Thunder and rain with you,
And grateful too
For sunlight on the garden.

Hefyd Shakespeare - 'As with your shadow, I with these did play' - o soned 98. Hoff soned - yn bennaf am fod Virginia Woolf 'di ychwanegu at y ddelwedd trwy'i ddefnyddio fe yn 'To the Lighthouse' - fel bo'r ystyr yn dwyshau unwaith i Mrs. Ramsay farw. Llun ingol o'r gofod ma colled yn gadael mewn bywyd...

Aaaac wrth gwrs, agoriadThe Love Song of J Alfred Prufrock, gan T. S. Eliot, sy jyst yn linell agoriadol. a delwedd, gwych - "Let us go then, you and I, when the evening is spread out against the sky, like a patient etherised upon a table."

Ma'r ddelwedd hwyrach o'r niwl fel cath yn wych 'fyd - 'nath cerdd Catrin Dafydd am ddychwelyd i Gaerdydd atgoffa fi bach ohoni rhywsut - a chlywed 'nodau sialc y clarinet', ife? - rhyw naws jazzy, a llif y delweddau 'di creu cysylltiad i fi falle.

Re: Beth yw'ch hoff linell mewn cerdd?

PostioPostiwyd: Sad 15 Rhag 2012 2:16 pm
gan ManonElin
"A thrwy darth yr oriau du, ein heniaith sy'n tywynnu" Gwawr - Mei Mac

Re: Beth yw'ch hoff linell mewn cerdd?

PostioPostiwyd: Iau 20 Rhag 2012 5:36 pm
gan Chickenfoot
"Wherever you may be, let your wind run free. Whether in church or chapel, let your arse rattle."