Llyfrau Robin Llywelyn

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llyfrau Robin Llywelyn

Postiogan nicdafis » Maw 08 Hyd 2002 5:36 pm

Beth mae pobl y Maes yn meddwl am lyfrau <a href="http://www.llywelyn.com/">Robin Llywelyn</a>?

Ydy unrhywun wedi darllen <i>Rhwng Gwyn a Du</i>, Angharad Price, sy'n sôn am stwff R.Ll.? Dw i'n ati ar hyn o bryd, ac yn joio.

Mwynhauais i <i>Seren Wen</i> yn fawr, ond sa i wedi darllen unrhywbeth arall. Beth am y storiau byrion, neu'r ail nofel? Dw i gwybod nad yw <a href="http://morfablog.com/fforwm/viewtopic.php?p=546#546">Meinir</a> yn rhy hoff o honno, unrhyw sylw arall?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 06 Tach 2002 6:58 pm

Dydw i ddim wedi darllen dim o'i nofelau, ond fe ddarllenais y gyfres o straeon fer "Y Dwr Mawr Llwyd" cryn dipyn yn ôl. Wn i'm be ddiawl sy'n mynd drwy ben y boi, myn diân i! Serch hynny, nes i fwynhau'r gyfrol (Cartoffl oedd fy stori orau, ond baswn i'n gallu enwi ychydig eraill).
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Meinir Thomas » Sul 10 Tach 2002 11:24 pm

Nap, 'wi ddim yn lico fe! Gorfod astudio "O'r Harbwr Gwg I'r Cefnfor Gwyn" yn coleg ar hyn o bryd. Iyffach, 'wi'n cael gwaith mynd trwyddo fe!
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Meinir Thomas » Sul 10 Tach 2002 11:25 pm

Wps! "O'r Harbwr Gwag I'r Cefnfor Gwyn" ro'n i'n ei feddwl, nid "gwg"!
Rhithffurf defnyddiwr
Meinir Thomas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 220
Ymunwyd: Maw 24 Medi 2002 10:25 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan jimkillock » Gwe 15 Tach 2002 7:11 pm

Mae yn wir bod teimladau cryf gan bobl am Robin llywelyn. Dwi'n hoff iawn o'i stwff .. gwreiddiol ac ychydig tu hwnt golwg gyfyng y rhan helaeth o 'diwylliant' Cymraeg / Cymreig. (Nid bod hyn ddim yr un fath mewn ieithoedd eraill ..ond mae hi yn broblem i'r Gymraeg weithiau .. ond mae o wedi dianc ohoni.) Os nad ydych chi'n mwynhau ei stwff, rhaid gweld hynny, o leiaf, 'swn i'n meddwl?

Gallaf weld pam mae rhai pobl yn llai frwdfrydig .. oherwydd mae ychydig allan o'r byd hwn .. ond dwi'n licio'r ffordd mae o'n eich tynnu chi i mewn i fyd afreal - gwreiddiol ac anarferol iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Siani » Llun 18 Tach 2002 10:24 pm

O, Meinir - does dim byd yn lladd llyfr yn fwy na gorfod ei astudio! Tria eto. Prynais i "Seren Wen" pan gafodd ei chyhoeddi, ond wnes i ddim dechrau ei darllen hi am flynyddoedd - wedi clywed ei bod hi'n anodd ei deall (amhosibl, meddai rhai). Rwy'n cofio bod mewn cwrs ysgrifennu creadigol, a phwnc y sgwrs oedd pwy oedd wedi llwyddo cyrraedd ymhellach na thudalen 10! (Awduron oedd yn siarad, hefyd!). Ond am ryw reswm, yn chwilio am rywbeth newydd i'w ddarllen un diwrnod, gafaelais i yn y nofel hon - a gwirioni. A meddwl - pam wnes i aros cyhyd? Rwy'n cytuno gyda jimkillock - gwreiddiol, anarferol, afreal, ac yn herio ffiniau cyfyng diwylliant Cymraeg/Cymreig. Ond y peth pwysicaf i fi oedd - braidd y gallwn i ei roi i lawr tan y diwedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron