Iawn, 'gia?
Newu orffan darllan hwn tua deuddydd yn ol. Oni'n meddwl 'i fod o reit dda, de. Er hyn, mi oni'n gweld y 'prolog' a'r 'epilog' braidd yn ddi-bwrpas. Os fysa na falans gwell rhwng stori Gwilym Rhys ac un Yncl Gwilym, yna dwi'n meddwl y bysa rhein 'di gweithio, ond o gofio na 'stori Yncl Gwilym' ydi 95% o'r nofal, dwi'm yn meddwl bod angan mowr i gynnwys stori Gwilym Rhys - er hyn, mi oedd cynnwys Chwech yn y ddwy stori yn gweithio'n dda - (Ma clawr cefn y llyfr yn awgrymu ych bod chi am gal dwy stori, ond yn y bon, un da chi'n gal). Tra dwi wthi'n negyddu, mi oni'n gweld y ddeialog (un Gynarfon i fod!) drwy'r nofal yn uffernol o gaeth a 'rhy ffurfiol' gin i, ond ella mai rhywfath o wudd-drol effect ydi hyn o'r iaith lafar dwi di mopio efo hi ers darllan y Dyddiadur Dyn Dwad cynta'!
Ond o ran rhediad stori, mi odd hon yn dda. Ma raid 'i bod hi - mi eshi drwyddi mewn noson a bora! Di'r pennoda ddim rhy hir ac ma hynny yn dechneg effeithiol i neud i chi ddarllan ymlaen yn ddi-lafur.
Na, chwara teg wan, er yr holl negyddu, deud clwydda fyswn i os fyswn i'n deud bo' fi heb fwynhau'r nofal ma.