Cymedrolwr: Llewelyn Richards
Alltud
Alltud yw'r Cymro sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru
Yn strydoedd a siopau Seisnigaidd, sidet y dre,
Mae bron mor henffasiwn heddiw a sucan a llymru, -
Rhyw anachronistiaeth ac odrwydd i bawb yw efe.
Erbyn hyn ychydig yn wir yw'r rhai sy'n poeni
Am dynged ei iaith, ei grefydd a'i ffordd o fyw;
Dirmygir ei etifeddiaeth, a'i wlad sy'n dihoeni,
Gwaeledd ddaeth i'w addoldai a gwelw yw ei Dduw
Mae yntau a bwndel ei iaith fel cardotyn ar grwydyr
Yn cynnes anwesu ei draddodiadau drud
Wrth symud yn syfrdan ddigalon o frwydyr i frwydyr
Gan fethu a gwadu'r pwn a gariodd gyhyd;
Ond ar dro pan gyferydd ag arall a gar yr iaith
Try'r llwyth yn llawenydd llwyr a rydd groen ar ei graith.
W. Leslie Richards
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai