Alltud

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Aranwr » Llun 11 Gor 2005 3:26 pm

Na, dwi'n credu mai am y soned yma gan W. Leslie Richards mae Seren Siwenna'n son. Mi wnes i astudio hon i TGAU. Ma'r bardd yn trafod stad y Cymry Cymraeg yn eu gwlad eu hunain.

Alltud

Alltud yw'r Cymro sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru
Yn strydoedd a siopau Seisnigaidd, sidet y dre,
Mae bron mor henffasiwn heddiw a sucan a llymru, -
Rhyw anachronistiaeth ac odrwydd i bawb yw efe.
Erbyn hyn ychydig yn wir yw'r rhai sy'n poeni
Am dynged ei iaith, ei grefydd a'i ffordd o fyw;
Dirmygir ei etifeddiaeth, a'i wlad sy'n dihoeni,
Gwaeledd ddaeth i'w addoldai a gwelw yw ei Dduw
Mae yntau a bwndel ei iaith fel cardotyn ar grwydyr
Yn cynnes anwesu ei draddodiadau drud
Wrth symud yn syfrdan ddigalon o frwydyr i frwydyr
Gan fethu a gwadu'r pwn a gariodd gyhyd;
Ond ar dro pan gyferydd ag arall a gar yr iaith
Try'r llwyth yn llawenydd llwyr a rydd groen ar ei graith.

W. Leslie Richards


O.N. Ma' hi'n soned afreolaidd SSiwenna ac yn un weddol drosiadol, yn ol fy nodiadau TGAU be bynnag. :winc: Gobeithio y bydd o help!
"Ma' llwyddiant yn dy wneud di'n glyfar ond ma' methiant yn dy wneud di'n ddoeth."

Gwefan Ha Kome!
Fisie prynu CD Ha Kome!
Rhithffurf defnyddiwr
Aranwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 329
Ymunwyd: Sad 29 Ion 2005 6:43 pm
Lleoliad: Durham / Dinbych y Pysgod

Postiogan HenSerenSiwenna » Maw 12 Gor 2005 8:21 am

Aha! Diolch i chi gyd,

Yr un gan W. Leslie Richards o'n ni yn meddwl am - wnes i ei hastudio i TGAU ryw 12 mlynedd ynol (god dwi'n teimlon hen :ofn: ) ond dwi'n cofio ei hoffi ac o ni eisiau cael gafael arni. Diolch aranwr 'ma hynnan gret. Diolch hefyd i Panom Yeerum - ella dylwn i astudio rhain i gyd - oes na casgliad o cerddi ar y testyn yma (dwi'n cymryd mai i'r un 'steddfod a ysgrifennon nhw?)

Sori, dwi ddim yn cliwd up ar y pethe 'ma :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Re: Alltud

Postiogan SerenSiwenna » Sul 27 Gor 2008 9:00 pm

Unrhywun yn gwybod ystryr "sucan a llymru" yma?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Alltud

Postiogan Kez » Sul 27 Gor 2008 10:13 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:Unrhywun yn gwybod ystryr "sucan a llymru" yma?


Wi'n credu taw rhyw fath o uwd yw'r ddau beth - bwyd y bobol dlawd ers llawer dydd.

Mae'n debyg taw llymru yw un o'r ychydig eiriau Cymraeg sydd yn y Saesneg yn y ffurf 'flummery'. Dyma beth mae'r Geiriadur Concise Oxford yn dweud amdano

Flummery 1 empty compliments, trifles, nonsense

2 a sweet dish made with beaten eggs,sugar etc [Welsh llymru, of unkn. orig.]
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Alltud

Postiogan Prysor » Llun 28 Gor 2008 10:25 pm

Ma'n siwr fod llymru'n llwyd, achos 'llwyd fel llymru' da ni'n ddeud yn Traws am rywun sy'n 'wyn fel y galchen.'
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Alltud

Postiogan Kez » Maw 29 Gor 2008 6:09 pm

Newydd ddod o hyd i hwn biti llymru (flummery) ar y we:

flum·mer·y Audio Help /ˈflʌməri/ Pronunciation Key - Show Spelled Pronunciation[fluhm-uh-ree] Pronunciation Key - Show IPA Pronunciation
–noun, plural -mer·ies.

1. oatmeal or flour boiled with water until thick.
2. fruit custard or blancmange usually thickened with cornstarch.
3. any of various dishes made of flour, milk, eggs, sugar, etc.
4. complete nonsense; foolish humbug.


--------------------------------------------------------------------------------

[Origin: 1615–25; < Welsh llymru, with ending assimilated to -ery]
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Alltud

Postiogan SerenSiwenna » Iau 07 Awst 2008 2:25 pm

Wow! Diddorol iawn,

O ni wrthi'n darllen "Smile Please" sef autobiography Jean Rhys a dyma hi'n deud yr hanes o sut oedd ei mam yn gorfodi hi i fwyta uwd, a wnaeth hi deuth ei thad (a oedd yn Gymro Gymraeg) amdanno, a dyma fo'n gorchymun fod Jean yn cael bwyta brecwast wedi ei wneud o wyuau wedi ei "beaten" a oedd yn felys...

mae'n gerdd diddorol tu hwnt tydi :D
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Nôl

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron