Alltud

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Alltud

Postiogan HenSerenSiwenna » Gwe 08 Gor 2005 7:51 am

Oes unrhywun yn gwydbod, oddi ar dop ei pennau, pwy 'sgrifennodd y cerdd "Alltud" sy'n mynd "Alltud yw'r cymro sy'n siarad cymraeg yn g nghymru heddiw? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan seren » Gwe 08 Gor 2005 8:54 am

guess llwyr - Dewi Emrys???
Rhithffurf defnyddiwr
seren
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 247
Ymunwyd: Mer 09 Maw 2005 7:10 pm

Postiogan Trafferth » Sul 10 Gor 2005 1:59 pm

Dwi'n reit sicr mai W.Leslie Richards nath sgwenu hi...ond ella mod i'n anghywir!
Rhithffurf defnyddiwr
Trafferth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 4
Ymunwyd: Mer 25 Awst 2004 4:54 pm
Lleoliad: mewn tafarn

Postiogan HenSerenSiwenna » Llun 11 Gor 2005 11:26 am

Hmmm, wedi edrych trwy google am y ddau yma ond methu ffeindio dim byd....oes na wefan barddoniaeth cymraeg fysa'n rhoi atebion fel hyn? :(
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan khmer hun » Llun 11 Gor 2005 11:57 am

Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan HenSerenSiwenna » Llun 11 Gor 2005 2:11 pm

:crio: Wnes i seinio fynnu a pob dim, ond dyw hi ddim yn rhoid y gwybodaeth dwi'n chwylio am :(

Oes rhywun yn gwybod pwy sgwennodd y cerdd yma?
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Panom Yeerum » Llun 11 Gor 2005 2:19 pm

Y flwyddyn 1948
Lleoliad yr Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr

Y Gadair

Testun. Awdl: 'Yr Alltud'
Enillydd: Dewi Emrys
Beirniaid: T. H. Parry-Williams, Gwilym R. Jones, Simon B. Jones

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd:

Awdl sy'n cydymdeimlo â gwerin Cymru yn ei thlodi a'i dioddefaint yw hon, ac mae hi yn yr un traddodiad ag awdl anfuddugol Eifion Wyn ym 1900, 'Y Bugail', 'Gwerin Cymru', Crwys, ac awdl foliant Gwilym R. Tilsley i'r glêwr. Difethir yr awdl gan gynganeddu cras, geirfa hynaflyd, ar brydiau, a mynegiant afrwydd.
Panom Yeerum
 

Postiogan Aranwr » Llun 11 Gor 2005 3:26 pm

Na, dwi'n credu mai am y soned yma gan W. Leslie Richards mae Seren Siwenna'n son. Mi wnes i astudio hon i TGAU. Ma'r bardd yn trafod stad y Cymry Cymraeg yn eu gwlad eu hunain.

Alltud

Alltud yw'r Cymro sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru
Yn strydoedd a siopau Seisnigaidd, sidet y dre,
Mae bron mor henffasiwn heddiw a sucan a llymru, -
Rhyw anachronistiaeth ac odrwydd i bawb yw efe.
Erbyn hyn ychydig yn wir yw'r rhai sy'n poeni
Am dynged ei iaith, ei grefydd a'i ffordd o fyw;
Dirmygir ei etifeddiaeth, a'i wlad sy'n dihoeni,
Gwaeledd ddaeth i'w addoldai a gwelw yw ei Dduw
Mae yntau a bwndel ei iaith fel cardotyn ar grwydyr
Yn cynnes anwesu ei draddodiadau drud
Wrth symud yn syfrdan ddigalon o frwydyr i frwydyr
Gan fethu a gwadu'r pwn a gariodd gyhyd;
Ond ar dro pan gyferydd ag arall a gar yr iaith
Try'r llwyth yn llawenydd llwyr a rydd groen ar ei graith.

W. Leslie Richards


O.N. Ma' hi'n soned afreolaidd SSiwenna ac yn un weddol drosiadol, yn ol fy nodiadau TGAU be bynnag. :winc: Gobeithio y bydd o help!
"Ma' llwyddiant yn dy wneud di'n glyfar ond ma' methiant yn dy wneud di'n ddoeth."

Gwefan Ha Kome!
Fisie prynu CD Ha Kome!
Rhithffurf defnyddiwr
Aranwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 329
Ymunwyd: Sad 29 Ion 2005 6:43 pm
Lleoliad: Durham / Dinbych y Pysgod

Postiogan HenSerenSiwenna » Maw 12 Gor 2005 8:21 am

Aha! Diolch i chi gyd,

Yr un gan W. Leslie Richards o'n ni yn meddwl am - wnes i ei hastudio i TGAU ryw 12 mlynedd ynol (god dwi'n teimlon hen :ofn: ) ond dwi'n cofio ei hoffi ac o ni eisiau cael gafael arni. Diolch aranwr 'ma hynnan gret. Diolch hefyd i Panom Yeerum - ella dylwn i astudio rhain i gyd - oes na casgliad o cerddi ar y testyn yma (dwi'n cymryd mai i'r un 'steddfod a ysgrifennon nhw?)

Sori, dwi ddim yn cliwd up ar y pethe 'ma :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
HenSerenSiwenna
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 852
Ymunwyd: Llun 28 Chw 2005 1:45 pm
Lleoliad: Lerpwl

Re: Alltud

Postiogan SerenSiwenna » Sul 27 Gor 2008 9:00 pm

Unrhywun yn gwybod ystryr "sucan a llymru" yma?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron