Tudalen 1 o 2

Penillion Jonsi

PostioPostiwyd: Iau 25 Awst 2005 3:43 pm
gan Meic P
Digwydd mynd am dro i dudalen Jonsi ar wefan y BBC a gwld fod cwpwl o'r ffans wedi gyrru eu cerddi fewn at yr 'hen goes'

Hon ydi fy ffefrun.

I Jonsi
Mae llais ar Radio Cymru,
Sydd yn boblogaedd iawn,
A phleser gwrando arno,
Y gwr hynod ddawn,
Mae'n medru bod yn ddoniol,
Wrth holi hwn a'r llall,
A hefyd pan fo angen,
Mae'n ddoeth a hynod gall.

A phwy yw'r person rhadlon,
Sy'n ein diddanu ni,
Wel, Eifion yw yr enw,
Neu Jonsi i chwi a fi,
Ei bleser yw cyfarfod,
A merched hardd y fro -
Er mwyn cael Cacen Siocled -
A dyna'i ffefryn o!

A boed blynyddoedd eto,
O hwyl a chwerthin iach,
I lonni'r holl drigolion,
Sy'n trigo Nghymru fach,
Mae'n ysgafnhau boreau -
Anghofio miri'r byd,
Tra Jonsi yn ein swyno
Yn hedd cartrefi clyd.

Mrs Elen Williams, Yr Hendre, Caernarfon


:D :D :D

OOOOoooo ciwt de :wps: :D
be am gyfansoddi cerdd ar y cyd i Jonsi?

Re: Penillion Jonsi

PostioPostiwyd: Iau 25 Awst 2005 3:51 pm
gan sian
Meic P a ddywedodd:be am gyfansoddi cerdd ar y cyd i Jonsi?


Beth arall sydd 'na i ddweud?

PostioPostiwyd: Iau 25 Awst 2005 4:03 pm
gan Rhodri Nwdls
Mae cacen siocled Jonsi
Yn weithred fudr iawn;
Dwi'n siwr fod Elen Wilias
Byth yn gneud o yn y pnawn.

Ond be am merchad dybliw-ai
A'r rheiny yn "Y Wawr";
Betia fod na un ne ddwy
Di byta cacen Jonsi fawr.

Aaaaaa-meeeeeen x

PostioPostiwyd: Iau 25 Awst 2005 4:06 pm
gan Mihangel Macintosh
Pob tro dwi'n clywed dy lais
Dwi ishe di-arddell y dull di-drais
Jonsi dwi mynd i sticio'r radio lan dy din di
Llifio'r shotgun a myd draw i'r BBC
Tracio ti lawr Gangster stylee
Dod mewn i'r stiwdio Radio Cymru
Tra'n malu cachu a Mrs Jones o Sir Fon
A neud ti fwyta'r ffycin meicroffon
Nes bod ti'n tagu yn fyw ar yr awyr
Sy rhy dda i ti - dylet dagu ar fy nghachu
Cheesy housewife choice
Ffyc off yr hen goes

PostioPostiwyd: Iau 25 Awst 2005 4:14 pm
gan Norman
* cofiwch gynnwys ei derm 'dansing drum' ! *

PostioPostiwyd: Gwe 26 Awst 2005 7:33 am
gan Mr Groovy
Jonsi, Jonsi, ti mor gach -
ti mor gach ma'n brifo.
Ond ma well da fi gael ti
na Steve a Terwyn ar fy radio.

PostioPostiwyd: Sad 27 Awst 2005 2:43 pm
gan Hogan glyfar
Ma' gin Myrddin Williams un dda yn llyfr 'Stwff y Stomp':

Tra bo llanw, tra bo trai,
Tra bo'r gog yn canu'n Mai,
Tra bo sgidmarcs yn fy nhrôns i,
Wrandai byth ar ffwcin Jonsi

PostioPostiwyd: Sad 27 Awst 2005 5:32 pm
gan Tegwared ap Seion
aaaaaa!! o fanno ddoth honna! :wps:

wedi bod yn chwilio am y bennill yna!

PostioPostiwyd: Sul 28 Awst 2005 10:16 am
gan Hogyn o Rachub
Wel, bu bron imi gael o'n iawn!

Re: Penillion Jonsi

PostioPostiwyd: Gwe 22 Hyd 2010 11:26 am
gan Cythrel Canu
Oedd jus' rhaid atgyfodi yr edefyn yma. :gwyrdd: