Be da chi'n ei ddarllan.....

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 13 Mai 2008 11:17 am

Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw
Llyfr sydd o flaen ei amser. Er cafodd ei ysgrifennu yn 1997, mae fel darllen blog rhwyun ond blog sydd o ddiddordeb i neb heblaw am yr un a ysgrifenodd. Nes i gyrraedd hanner ffordd, ond rhoais y ffidl ar y to a chael llyfr arall.

Newydd orffen hefyd Post-War gan Tony Jodt, hanes Ewrop o 1945. Werth chweil.
Dilyn hanes y cyfandir o dinistriad yr ail-ryfel byd i fynediad Dwyrain Ewrop mewn i'r Undeb.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan S.W. » Mer 18 Meh 2008 10:35 pm

Prysor a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:'Joe Cahill: A Life in the IRA' ar hyn o bryd


Class o lyfr, S.W. Agoriad llygad.


Wedi gorffen y llyfr bellach. Andros o lyfr da chwarae teg, agoriad llygad a hanner fel ddywedaist.

Dwi rwan wedi dechrau 'Garvaghy: A Community Under Siege'. Cyfres o straeon neu hanesion byr ydyn nhw gan pobl sy'n byw ar Ffordd Garvaghy yn disgrifio yr effaith mae bod o dan warchae gan yr Orange Order a'u gorymdeithiau a'r casineb crefyddol sy'n dod yn sgil hynny yn cael ar eu bywydau nhw.

Ar ol i mi orffen hwn dwi'n teimlo dylswn droi at ddarllen llyfr Cymraeg, dwi'n yn credu fy mod wedi darllen llyfr Cymraeg ar ei hyd ers......erm Hanner Cystal a'n Nhad gan Dai Davies. Dwi'm yn llawer o foi nofelau though a dwi wedi cael benthyg hanes y Belgrano gan fy nhad yng nghyfraith.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan jiw jiw! » Gwe 27 Meh 2008 2:53 pm

Ynghanol darllen 'The End of Mr Y' Scarlet Thomas. Nofel fach dda, bach yn rhyfedd ag angen consentreto mewn ambell i fan ond yn plesio ar y funud. Mae'n darllen yn eitha rhywdd, fi heb deimlo i fi eiste lawr am sbel yn ei darllen hi dros y dyddie dwetha ond fi 'di darllen ryw 320 tudalen.
Hwntw o gartre sy'n gwrthod troi'n Gog!
jiw jiw!
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Gwe 11 Chw 2005 9:19 am
Lleoliad: Bangor/Eglwyswrw

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Prysor » Sad 05 Gor 2008 9:08 am

newydd orffen 'Altered Carbon' gan Richard Morgan.

Stori wych, gafaelgar, llawn dychymyg a 'speculative science' sydd yn syfrdannu a gneud i chi feddwl run pryd. Ond ar ben hynny, mae ysgrifennu'r awdur ymhlith y gorau i mi ddarllen erioed.

Dwi'n bwyta'n ffordd drwy gofiant Charles Bukowski, gan Barry Miles, rwan.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Chwadan » Llun 07 Gor 2008 1:08 pm

Newydd orffen Pride and Prejudice, heb wybod dim am y stori na pwy oedd Mr Darcy (ai fi di'r unig un?). Rwan ar The Golden Notebook gan Dorris Lessing (enillodd wobr Nobel flwyddyn dwytha) ond heb fynd ymhellach na'r nofel fer ar y cychwyn eto. Edrych mlaen at weld sut mae'r nôtbwcs eraill yn plethu efo'i gilydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Wylit, wylit Lywelyn » Mer 09 Gor 2008 1:26 pm

Mered. Detholiad o Ysgrifau. Mae'r ysgrif am T H Parry-Williams yn ddifyr iawn. Ydi gwyddoniaeth yn cynnig ateb perffaith a chyflawn i holl ddirgelion y bydysawd. Y mannau tywyll anesboniadwy.
Rhithffurf defnyddiwr
Wylit, wylit Lywelyn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 400
Ymunwyd: Maw 29 Ion 2008 8:49 pm
Lleoliad: Un o bwerdai ein diwylliant

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Prysor » Iau 02 Hyd 2008 9:29 am

Dead As Doornails - Anthony Cronin

Atgofion bardd Gwyddelig, cyd-yfwr a chyfaill, am Brendan Behan. Doedd Iwerddon Wltra-Gatholig, dlawd, De Valera, wedi'r Ail ryfel Byd, ddim yn lle braf i feirdd ac ysgrifennwyr blaengar ledaenu eu hadennydd creadigol a byw bywyd 'bohemaidd.'
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Gowpi » Iau 02 Hyd 2008 10:02 am

Ddim yn cofio'r teitl yn iawn ( :wps: ) '....a'i ddwy Jesebel', Gareth Miles, dim ond newydd ei ddechre er mwyn y clwb darllen...
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan sian » Iau 02 Hyd 2008 10:35 am

Y Proffwyd?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

Postiogan Geraint » Iau 02 Hyd 2008 12:20 pm

Newydd ddechrau American Pastoral gan Philip Roth. Hyd yn hyn, disgrifiadau ardderchog o phobl ai' cymeriadau, a sut mae eich cenfdir a'ch plentyndod yn eich siapio. Ysgrifennu gwych, allai weld pam enillodd y llyfr y Pullitzer Prize.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron