Tudalen 1 o 40

Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 1:09 pm
gan Ari Brenin Cymru
Reit be ma pawb yn darllan ar y funud? Dwi wrthi'n mynd drwy llyfr Bill Bryson " A short History of Nearly Everything" a dwi'n ei fwynhau yn arw. Dwi'n mynd i symud ymlaen i "The World According To Clarkson" wedyn sef y llyfr gan Jeremy Clarkson cyflwynydd Top Gear.

Be da chi'n obeithio i ddarllen yn y dyfodol agos?

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 2:04 pm
gan Wierdo
Dwi nol ar Agatha Christies ar y foment! Dwin gobeithio nai gyradd Llyfrgell yn fuan er mwyn cal mwy!

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 2:21 pm
gan Blewyn
"What We Have Lost" - llyfr difyr iawn am bethau fel spangles, players no6, watneys super 7, mawrfrydigrwydd a doethineb y hynafaid.

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 2:27 pm
gan Macsen
Homer's Odyssey, Dark Star Safari, Teeline Fast (gwaith), Corachod Digartref (traethawd MA).

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 2:31 pm
gan Tegwared ap Seion
"Newyddion Ffoltia Mawr" Wil Sam. Jiniys! :D

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 2:37 pm
gan Dewi Bins
Ari Brenin Cymru a ddywedodd:Reit be ma pawb yn darllan ar y funud? Dwi wrthi'n mynd drwy llyfr Bill Bryson " A short History of Nearly Everything" a dwi'n ei fwynhau yn arw. Dwi'n mynd i symud ymlaen i "The World According To Clarkson" wedyn sef y llyfr gan Jeremy Clarkson cyflwynydd Top Gear.

Be da chi'n obeithio i ddarllen yn y dyfodol agos?


Dwim yn Licio Darllen

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 2:57 pm
gan Leusa
wrthi'n darllen Mr Nice (bywgraffiad Howard Marks) am yr eilwaith. Ma'n dda, da iawn.
Does na'm byd gwell na bywgraffiadau da.

Wedi cael plwc ar ddarllen llyfrau Terry Pratchet hefyd, ddim yn cofio enw'r dwetha, yr un am yr Opera House - gwych.

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 3:01 pm
gan dawncyfarwydd
'Y Llaw Wen' Alun Jones. Wedi cymryd tipyn o amser i ddod i mewn iddi ond dwi'n meddwl ei bod hi'n wych iawn iawn.

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 3:25 pm
gan Dyn Gwyn Gwirion
Dwi ar ganol adolygu ar y funud, ond ar ol gorffen dwi am ddarllen 'The Grapes Of Wrath' gan John Steinbeck, yna 'And The Ass Saw The Angel' gan Nick Cave. Yna symud ymlaen at y stwff dwi'n gorfod darllen ar gyfer fy nghwrs llenyddiaeth Saesneg, gan ddechrau efo 'Heart Of Darkness' gan Joseph Conrad.

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 3:54 pm
gan gimp gruff rhys
y sach winwns -gary slaymaker

death of a salesman - arthur miller

yr ddau yn gorkars