Duw a ddywedodd:Newydd orffen
Lladd Duw gan Dewi Prysor. Llyfr Cymraeg cynta i mi ddarllen (heblaw'r rhai plant i fy mhlant!), ers i mi adael ysgol. Clywais ryw raglen ar Radio Cymru yn sôn am ryw gystadlaeuaeth a phenderfynnais i ei brynu.
Ware teg, un o'r llyfre gore dwi wedi darllen ers sbel fowr. Roedd y pen yn y 'cynthrons' yn glasur! 'Na'i ddim gynnig unrhyw sboilyrs. Eniwei, er roedd yr iaith braidd yn estron i die-hard hwntw fel minne, dwi'n mynd i brynu rhagor o'i waith. Unrhyw un yn gallu argymell?
A finnau newydd orffen y llyfr bythgofiadwy 'ma 'fyd! A beth am yr hogla yn y garafan? Esgidiau chwyslyd, tybed?
Pa mor greulon yw'r byd 'ma? Dyma stori am y sefyllfaoedd anobeithiol mae rhai pobol yn ffeindio eu hunain ynddyn, a phobl eraill sydd ar fai am hynny! A jysd pan maen nhw'n cael llygedyn o obaith, mae'n cael ei gipio bant, fel ddigwyddodd i Tantalus...
Ar y dechrau o'n i'n disgwyl rhywbeth tebyg i 'Trainspotting' gan Irvine Welsh, ond i ryw raddau mae'r llyfr hwn yn fwy erchyll a dychrynllyd
Dwi'n licio'r ffordd mae'r awdur yn datgelu'r cysylltiadau rhwng y cymeriadau yn raddol, fel bod 'na wastad rhyw gyfrinach yn cwato mas fan'na yn y 'tywyllwch'...
'System ar y diawl, sy'n caniatau i bobl osod pobl lawr'...