Tudalen 35 o 40

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Maw 27 Ion 2009 10:34 am
gan Manon
Brithyll, Dewi Prysor. Hollol, hollol briliant.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sad 14 Chw 2009 6:47 pm
gan Ffrinj
Dwi'n darllen Cysgod Y Cryman ar hyn o bryd.
Hanner ffor' trwyddi - woo!

Wedyn am ddarllen Crawia wrth gwrs.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 7:15 am
gan Gwenci Ddrwg
Rhyw styff am y brenin Arthur a phosibilrwydd/amhosibilrwydd ei fodolaeth, i gwrs prifysgol. Diddorol iawn er fod o wedi'i orfodi arna i .

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 1:51 pm
gan Madrwyddygryf
Dwi bron ar a gorffen We gan Yevgen Zamyatyn. A fe hoffwn rhoi fy llaw ar fy nghalon a dweud sgennaim syniad beth sydd yn digwydd. Roed raid i mi ddarllen amdano ar wicipedia i ddeall beth oedd y stori. :wps:

Ar ol hynny, dwi’n symud mlaen i The People’s State. Hanes cymdeithasol Dwyrain yr Almaen

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 2:26 pm
gan WoganJones
Ar hyn o bryd dwi'n darllen y 'Tao Te Ching' yn Saesneg (am y canfed tro siwr o fod). Mae'n llyfr enwog iawn dros y byd ac yn gysur i mi yn aml mewn byd sy'n off ei ben. Ga i ofyn a yw rhywun yn gwybod am fersiwn Cymraeg? Yn wir, oes unrhywbeth am 'Taoism' o gwbl yn y Gymraeg? Dw i wedi ffaelu dod o hyd i ddim byd eto ac hoffwn weld doethineb Taoism mewn Cymraeg cyfoes clir.

Diolch

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 2:55 pm
gan osian
Newydd orffan Cathod a Chwn gan Mihangel Morgan. Dew, un garw ydi Mihangel Morgan, fu dest i mi a rowlio chwerthin wrth ddarllan y shdori yn copio y sdori hawsa'n y byd i'w chopio. Crôc.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Gwe 20 Chw 2009 7:00 pm
gan Hazel
"The Legal Limit" gan Martin Clark. Brawd yn erbyn brawd. Dyn gwyllt a throseddol yn erbyn dyn llwyddiannus a pherchir. Efallai y bydd y cariad rhyngddyn nhw'n eu dinistrio nhw ill dau.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Gwe 20 Chw 2009 7:27 pm
gan Duw
Endymion Omnibus gan Dan Simmons - mwy o'r un peth yn dilyn nofelau Hyperion. Sci-fi aeddfed a medrus.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Gwe 05 Meh 2009 2:00 pm
gan niabach
hunangofiant alan carr
a newydd ddechrau darllen 'teulu lord bach'
am ddarllen hunangofiant parky a dawn french ar ol hynny.

llyfr wnaeth fy siomi yn arw - llyfr jonathan ross.

llyfr hynod o dda (saesneg) - a spot of bother, gan awdur 'the curious incident of the dog in the night time', a hefyd hunangofiant duncan bannatyne o dragon's den.

nes i wir fwynhau llyfr mererid hopwood o steddfod llynedd, ddim yn cofio'r enw rwan...

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Gwe 05 Meh 2009 2:54 pm
gan osian
On the road - Jack Kerouac. I'm digging it.