Tudalen 36 o 40

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Gwe 05 Meh 2009 10:37 pm
gan anffodus
A Free-Wheelin' Time gan Suze Rotolo, yr hogan sy ar glawr the free-wheelin' bob dylan. Son am Greenwich Village ddechra'r chwedega. Ddigon difyr.
Down and Out in Paris and London, George Orwell. Ma'r sgwennu mor hynod briliant fel bod gweithio 15 awr y dwrnod mewn restaurants budr am gyflog gwael bron iawn â bod yn uchelgais oes i mi bellach

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sad 06 Meh 2009 1:52 pm
gan kook67
Newydd gwpla The boy in the stripped pyjamas. Llyfr gwych. Un or rhai gorau rydw i erioed wedi darllen. Petai e ddim am y blurb byddai e'n anodd iawn i wybod bod e am y natsiaid.

Dwi'n dechrau Barti Ddu heno.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sad 06 Meh 2009 3:50 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
kook67 a ddywedodd:
Dwi'n dechrau Barti Ddu heno.

b.r.u.l. ma' llyfrgell caernarfon yn dal i ddisgwl un fi'n ol ers 1989. :?

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sad 06 Meh 2009 4:00 pm
gan Cardi Bach
Wrthi ar ambell i lyfr ar y foment:
Atyniad, Fflur Dafydd
Catch 22, Joseph Heller
The Age of American Unreason (Dumbing Down and the Future of Democracy), Susan Jacoby
The Looming Tower - Al Qaeda's Road to 9/11, Lawrence Wright
a The Man From the Alamo, John Humphries

mae'r ddwy ffuglen yn wych, ac mae un Fflur D mor hawdd i'w ddarllen.
O'r dair ffeithiol, mae'r Looming Tower yn darllen yn ddifyr, yn ddigon hawdd, ac yn agoriad llygad, ond yn gallu mynd yn ddiflas weithiau. Mae'r Age of American Unreason yn ddiddorol, eto yn agoriad llygad, ond yn hollol ddiflas, ac wedi cael ei ysgrifennu ermwyn trio swnio'n intelectshiwal, gan ddefnyddio tudallennau lu lle gellir fod wedi bod yn llawer fwy cynil gyda geiriau, a dal i gael y neges drosodd. Mae llyfr John Humphreys yn wych - hawdd i'w ddarllen, a diddorol.

Wym yn gwbod pam ond ma da fi habit o ddarllen sawl llyfr ar y tro. Seicolegwyr yn ein plith?

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sad 06 Meh 2009 4:42 pm
gan sian
anffodus a ddywedodd:Down and Out in Paris and London, George Orwell. Ma'r sgwennu mor hynod briliant fel bod gweithio 15 awr y dwrnod mewn restaurants budr am gyflog gwael bron iawn â bod yn uchelgais oes i mi bellach


Beth am ddachreu trwy weithio 6 awr y dwrnod mewn cegin alle wneud ag ychydig o Mr Muscle am ddim cyflog o gwbwl?

Newydd orffen Y Llwybr, Geraint Evans. Braidd yn siomedig - dim byd sbeshal am y dweud, dim yn cyfleu awyrgylch Aberystwyth (sef y rheswm nes i brynu e) ac mae ambell i ran o'r plot yn HOLLOL sili.

Wrthi'n darllen Dala'r Llanw, Jon Gower - mwynhau hwnnw'n fawr - cyfleu'r awyrgylch yn hyfryd - ond dw i'n cael y teimlad ei fod wedi edrych mewn geiriadur am rai o'r geiriau yn lle dweud y peth yn y ffordd Gymreig.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sul 21 Meh 2009 2:17 pm
gan Leusa
Heb fod ar y maes ers blynyddoedd bellach, ac wedi darllen dipyn ers hynny! Dyma ddetholiad o'r nofelau mae'n rhaid eu darllen:
We Need to Talk About Kevin - Lionel Shriver, cyfres o lythyrau gan fam plentyn sydd wedi saethu rhai o'i gyd-ddisgyblion yn farw yn yr UDA. Mae o'n emosiynol, ac yn llawn twists. Ma'n swnio'n ddiflas - cyfres o lythyrau, ond dydio ddim, mae pob tudalen yn gyffroes.
Birdsong - Sebastian Faulks, llyfr sy'n neidio rhwng y rhyfel byd 1af a'r presennol. Fel rhywun s'n anghytuno'n gryf ac unrhyw fath o drais, boed yn ymuno â'r fyddin neu glodfori rhyfeloedd ayyb 'dwi'n dueddol o anwybyddu dyddiau 'cofio y rhyfeloedd byd'. Ond mi fyddai'n meddwl dwywaith o hyn allan. Mae'r llyfr yn darlunio bywydau pob normal a'u gorfodwyd i fynd i fwd Ffrainc a Gwlad Belg i farw dros achos nad oedden nhw'n cytuno ag o.
The Secret life of Bees - Monk Kidd - wedi ei selio ar gyfnod hiliol cychwyn yr 20fedG yn UDA. Ond efo stori annwyl am hogan fach wen yn cael ei hun yn byw hefo tair chwaer ddu sy'n cadw gwenyn.
The Time Traveler's Wife - Audrey Niffenegger Dyma fy llyfr gorau newydd. Mae'n sôn am berthynas gŵr a gwraig, ond mae'r gŵr yn teithio mewn amser, (heb drio) ac mae'n cyfarfod ei wraig pan mae hi'n hogan fach, hmmm ma'n swnio'n od. A mae o'n od! Ond gwych o od.
Captain Corelli's Mandolin - Louis de Bernières, Mae'n siwr fod lot o bobl yn cael ei rhoi off darllen y nofel yma oherwydd y ffilm (nad ydw i wedi ei gweld, diolch byth). Mae'r awdur yn amazing. Llyfr yn llawn satire a hiwmor tywyll. Mae 'na ryfel a marwolaethau ayyb, ond rhywsut dydech chi ddim yn sylwi lot ar yr agwedd negyddol i hynny achos y darnau doniol a'r love stori gwych sy'n digwydd.


och ma na lot lot mwy, ond mae gen i draethawd arall i'w sgwennu!!

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sul 21 Meh 2009 6:34 pm
gan Hazel
Os oes diddordeb gynnoch:

Dydyn nhw ddim am Gymru. Dydyn nhw ddim am Brydain. Dymunaf fy mod i allu dod o hyd i gyfres am Ewrop sy'n debyg i'r rhain. Mae Michael Gear a Kathleen O'Neal Gear (hynafiaethwyr) wedi ysgrifennu cyfres o storiau ffug-hanesyddol am Gogledd America sy'n dechrau 15,000 o flynedd yn ôl. Storïau am y mudiadau ac anheddiadau o'r bobl gyntaf ar y cyfandir Gogledd America ydyn nhw.

Maen' nhw'n ysgrifennu am y Paleo, yr Anazi, y Pueblo, y Algonquin, y Gwneuthurwyr basgedi, a.y.y.b. Mae'r cyfnod yn o 13,000 B.C. i 1300 A.D. "People of the Wolf"; People of the Nightland; People of the Sea; People of the Owl; a.y.y.b. Ar hyn o bryd presennol, mae 'na 16 llyfrau "Pobl o..." Gwelwch yma
http://www.gear-gear.com/books.shtml

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 22 Meh 2009 7:50 am
gan Prysor
Hazel a ddywedodd:Os oes diddordeb arnoch:

Dydyn nhw ddim am Gymru. Dydyn nhw ddim am Brydain. Dymunaf fy mod i allu dod o hyd i gyfres am Ewrop sy'n debyg i'r rhain. Mae Michael Gear a Kathleen O'Neal Gear (hynafiaethwyr) wedi ysgrifennu cyfres o storiau ffug-hanesyddol am Gogledd America sy'n dechrau 15,000 o flynedd yn ôl. Storïau am y mudiadau ac anheddiadau o'r bobl gyntaf ar y cyfandir Gogledd America ydyn nhw.

Maen' nhw'n ysgrifennu am y Paleo, yr Anazi, y Pueblo, y Algonquin, y Gwneuthurwyr basgedi, a.y.y.b. Mae'r cyfnod yn o 13,000 B.C. i 1300 A.D. "People of the Wolf"; People of the Nightland; People of the Sea; People of the Owl; a.y.y.b. Ar hyn o bryd presennol, mae 'na 16 llyfrau "Pobl o..." Gwelwch yma
http://www.gear-gear.com/books.shtml


Difyr iawn. Ond hyd yn ddiweddar, doedd dim tystiolaeth fod dyn wedi cyrraedd yr Americas cyn 13,000 blwyddyn yn ol.

Ond yn ol cyfres deledu ddiweddar y Dr Alice Roberts, mae tystiolaeth newydd yn profi fod dyn yn dechrau cyrraedd yno o gwmpas 14,000 - ond mewn niferoedd ofnadwy o fach.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 22 Meh 2009 11:57 am
gan Hazel
Maen 'nhw'n dal i'w newid e; maen' nhw'n dal i'w symud e yn ôl. Yn awr, mae 'na un ddamcaniaeth y roedd 'na "Caucasoid" yn y gogledd-orllewin mwy 'na 9,000 o flynedd yn ôl. Dw i'n cael helynt efo hynny.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 22 Meh 2009 12:09 pm
gan Prysor
Difyr yn tydi? Anthropologist's holy grail.

Mae'r nofelau yn swnio'n ddiddorol iawn hefyd. Dwi'n meddwl trio un. Diolch i ti Hazel.