Tudalen 37 o 40

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Maw 23 Meh 2009 12:55 am
gan Duw
Neuromancer: William Gibson (cyberpunk). :?

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Maw 23 Meh 2009 9:53 pm
gan Wigs
Open Veins of Latin America gan Eduardo Galeano. Llyfr anhygoel am hanes De America sy'n dangos yn union, mewn ffordd hynod farddonol a lliwgar, sut yr ataliwyd datblygiad y cyfandir gan yn gyntaf gwledydd Ewrop a nes ymlaen yr UDA. Mae e'n darllen fel Noam Chomsky wedi ei ail-ysgrifennu gan Gabriel Garica Marquez!

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Mer 24 Meh 2009 6:50 am
gan Prysor
Good Friday: The Death of Irish Republicanism, Anthony McIntyre

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Iau 25 Meh 2009 3:03 pm
gan Creyr y Nos
One Day in the Life of Ivan Denisovich gan Aleksandr Solzhenitsyn. Llyfr da iawn yn adrodd hanes diwrnod mewn carchar yn Rwsia.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sad 18 Gor 2009 9:14 am
gan Prysor
bellach, dwi bron a gorffen 'Stakeknife: Britain's Secret Agents in Ireland' (Martin Ingram a Greg Harkin)

Ffycin horiffic. Read it and weep.

http://www.amazon.co.uk/Stakeknife-Brit ... 169&sr=8-1

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Iau 30 Gor 2009 1:08 pm
gan finch*
The Riddle of the Sands - Erskine Childers. Un o'r (os nad Y) stori gynta am spies yn y blynyddoedd yn arwain i fyny at y Rhyfel Byd Cyntaf. Darllenes i The 39 Steps a symud ymlaen i hwn er nad oedd gen i syniad ei fod e wedi ei seilio ar yr un math o sefyllfa. Rhyw fath o fersiwn drymach o'r 39 steps. Ma'n ddiddorol achos bo fi wedi arfer shwt gymynt a^ pherthynas gwledydd Ewrop a'u gilydd ar o^l yr Ail Ryfel Byd, ma'r ddau lyfr yma yn rhoi persbectif gwahanol am eu bod wedi ysgrifennu cyn yr holl densiwn stereotypical. Bues i hefyd yn siarad a^ ymchwilydd hanes o'r Almaen oedd wrthi'n astudio perthynas anglo-almaenig ar ddechrau'r ganrif yn y pyb y noson ar ol dechrau ei ddarlllen. :ofn: Sbwci.

Sai'n gwbod be ddarllenai nesa, falle ychydig o straeon byrion Edgar Allan Poe, Murder on the Rue Morgue mae'n siwr (prynes i gasgliad llawn yn ddiweddar). Dwi hefyd am ailddarllen Catch-22 a Trysor y Mor Ladron.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Maw 15 Medi 2009 11:25 pm
gan Prysor
The Basque History of the World - Mark Kurlansky

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Mer 16 Medi 2009 6:47 am
gan sian
Y Llyfrgell, Fflur Dafydd

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Mer 16 Medi 2009 9:36 am
gan Ray Diota
sian a ddywedodd:Y Llyfrgell, Fflur Dafydd


wedi beni hon yn ddiweddar. Be ti'n meddwl de, Sian? *na'i sgwennu mwy pan dwi'n siwr bo ti 'di beni 'ddi i osgoi sbwylio'i iti!*

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Mer 16 Medi 2009 10:05 am
gan sian
Ray Diota a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Y Llyfrgell, Fflur Dafydd


wedi beni hon yn ddiweddar. Be ti'n meddwl de, Sian? *na'i sgwennu mwy pan dwi'n siwr bo ti 'di beni 'ddi i osgoi sbwylio'i iti!*


Mwynhau hi. Dan yn fy atgoffa o rywun - ddim yn siwr pwy.