"Y Tri Bob". Ydw i'n rhedeg hwyr? Dim ots. Mae e'n dal yn dda, fodd bynnag. Mae 'na newyddion da yna am Americanwyr o linach Gymraeg. Dw i'n dweud am yr ymchwil gan Bob Owen.
Hazel
Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Dwi newydd orffen O tyn y gorchudd. Wel am rwtsh. Digon difyr mewn mannau ond ar ol cyrraedd y diwedd dwi'n teimlo fy mod wedi cael fy nhwyllo yn uffernol. Dwi ddim yn deud pam rhag ofn i rywun fod eisiau ei ddarllen. Mae pawb sydd wedi'i ddarllen yn gwybod am beth dwi'n son. Beth nesaf? Rhywbeth callach - Crawia!
Mae llyfrau eraill Kurlansky yn dda iawn hefyd, yn enwedig '1968', sy'n edrych ar y flwyddyn hynny mewn sawl gwlad gwahanol i weld y tebygrwydd a'r gwahaniaethau o ran beth ddigwyddodd. Mae ei lyfr 'Non-Violence' yn wych hefyd.