Newydd orffen
Lladd Duw gan Dewi Prysor. Llyfr Cymraeg cynta i mi ddarllen (heblaw'r rhai plant i fy mhlant!), ers i mi adael ysgol. Clywais ryw raglen ar Radio Cymru yn sôn am ryw gystadlaeuaeth a phenderfynnais i ei brynu.
Ware teg, un o'r llyfre gore dwi wedi darllen ers sbel fowr. Roedd y pen yn y 'cynthrons' yn glasur! 'Na'i ddim gynnig unrhyw sboilyrs. Eniwei, er roedd yr iaith braidd yn estron i die-hard hwntw fel minne, dwi'n mynd i brynu rhagor o'i waith. Unrhyw un yn gallu argymell?
