Tudalen 39 o 40

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Iau 08 Hyd 2009 9:49 pm
gan Prysor
Wigs a ddywedodd:Prysor ar Mer Medi 16, 2009 12:25 am

The Basque History of the World - Mark Kurlansky

Mae llyfrau eraill Kurlansky yn dda iawn hefyd, yn enwedig '1968', sy'n edrych ar y flwyddyn hynny mewn sawl gwlad gwahanol i weld y tebygrwydd a'r gwahaniaethau o ran beth ddigwyddodd. Mae ei lyfr 'Non-Violence' yn wych hefyd.


diolch Wigs. Liciwn i ddarrlen rhain.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sad 31 Hyd 2009 12:51 am
gan Emma Reese
Dw i newydd orffen hunangofiant Edwards arall - Un Dydd ar y Tro gan Trebor Edwards. Prynes i hwn yn ail-law am bunt ym maes Eisteddfod y Bala. Mae o'n werth mwy o lawer na phunt. Hynod o ddiddorol.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 09 Awst 2010 8:52 am
gan Dafad∙Ddall
Rwy ar fin gorffen "Rhagom I Ryddid" gan Gwynfor Evans. (£3 o "Lyfrau Ystwyth" yn Aberystwyth. Siop fach dda!)

Oes gan unrhyw un syniad pam fod e'n galw'r Alban yn Sgotland? Neu'n "Scotland" ar un achlysur? Tarodd e fi braidd yn od. :?

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sad 27 Tach 2010 11:00 am
gan ElinorSian82
Ma na lyfr newydd gan Dewi Prysor. Mor egseited i'w ddarllen. Sa rhywun di ddarllen o eto? x

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sad 27 Tach 2010 10:35 pm
gan Cythrel Canu
Hunangofiant Meic Povey. Watt a boi :lol:

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Gwe 11 Chw 2011 1:43 am
gan Geraint
Sarum - Edward Rutherford

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sad 04 Meh 2011 11:26 pm
gan Duw
Newydd orffen Lladd Duw gan Dewi Prysor. Llyfr Cymraeg cynta i mi ddarllen (heblaw'r rhai plant i fy mhlant!), ers i mi adael ysgol. Clywais ryw raglen ar Radio Cymru yn sôn am ryw gystadlaeuaeth a phenderfynnais i ei brynu.

Ware teg, un o'r llyfre gore dwi wedi darllen ers sbel fowr. Roedd y pen yn y 'cynthrons' yn glasur! 'Na'i ddim gynnig unrhyw sboilyrs. Eniwei, er roedd yr iaith braidd yn estron i die-hard hwntw fel minne, dwi'n mynd i brynu rhagor o'i waith. Unrhyw un yn gallu argymell?

Delwedd

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sul 05 Meh 2011 7:31 pm
gan Mackem
Duw a ddywedodd:Newydd orffen Lladd Duw gan Dewi Prysor. Llyfr Cymraeg cynta i mi ddarllen (heblaw'r rhai plant i fy mhlant!), ers i mi adael ysgol. Clywais ryw raglen ar Radio Cymru yn sôn am ryw gystadlaeuaeth a phenderfynnais i ei brynu.

Ware teg, un o'r llyfre gore dwi wedi darllen ers sbel fowr. Roedd y pen yn y 'cynthrons' yn glasur! 'Na'i ddim gynnig unrhyw sboilyrs. Eniwei, er roedd yr iaith braidd yn estron i die-hard hwntw fel minne, dwi'n mynd i brynu rhagor o'i waith. Unrhyw un yn gallu argymell?

Delwedd


A finnau newydd orffen y llyfr bythgofiadwy 'ma 'fyd! A beth am yr hogla yn y garafan? Esgidiau chwyslyd, tybed? :crechwen:

Pa mor greulon yw'r byd 'ma? Dyma stori am y sefyllfaoedd anobeithiol mae rhai pobol yn ffeindio eu hunain ynddyn, a phobl eraill sydd ar fai am hynny! A jysd pan maen nhw'n cael llygedyn o obaith, mae'n cael ei gipio bant, fel ddigwyddodd i Tantalus... :crio:

Ar y dechrau o'n i'n disgwyl rhywbeth tebyg i 'Trainspotting' gan Irvine Welsh, ond i ryw raddau mae'r llyfr hwn yn fwy erchyll a dychrynllyd :drwg:

Dwi'n licio'r ffordd mae'r awdur yn datgelu'r cysylltiadau rhwng y cymeriadau yn raddol, fel bod 'na wastad rhyw gyfrinach yn cwato mas fan'na yn y 'tywyllwch'... :o

'System ar y diawl, sy'n caniatau i bobl osod pobl lawr'...

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sul 05 Meh 2011 8:51 pm
gan nicdafis
Dw i'n darllen O'r Mwg i'r Mynydd gan J.H. Jones (Je Aitsh). Ar hap, braidd, ond dw i heb ddarllen dim byd yn y Gymraeg ers sbel hir, a dechrau gweld eisiau.

Newydd ffeindio englyn coffa yng nghefn y llyfr, o waith Tryfanwy:

Mae rhyw dristwch mawr drosti -- yn y llwch,
A llu'n lleddf o'i cholli;
Ond rhoddwch heddwch iddi --
Duw ei Thad a aeth â hi.


Nôl i A Song of Ice & Fire ar ôl hyn.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 06 Meh 2011 11:15 pm
gan Duw
Cytuno'n llwyr Nic. Dwi dal yn meddwl am y datguddiad nawr. Ych.
Heb sbwylo fe i unrhyw un sy'n darllen hwn, roedd y tudalennau olaf wedi fy siomi i ddechrau - roeddwn i angen mwy. Ond wedi meddwl am y peth dros ddiwrnodau, craff iawn dwi'n meddwl oedd hwn. Dyma un o'r unig lyfrau sy wedi fy mhoeni sbel ar ôl ei ddarllen. A dwi'n darllen lot.