Tudalen 40 o 40

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Mer 15 Meh 2011 6:26 am
gan Blewyn
Beer - The Story Of The Pint gan Martyn Cornell

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Maw 20 Maw 2012 8:57 am
gan asiarybelska
Dwi wedi ailgychwyn 'Y Llyfrgell' gan Fflur Dafydd. Yn anffodus, mae'n rhaid imi ddefnyddio geiriadur, mae hi'n rhy glyfar i mi, dysgwr(aig) ;)

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 21 Mai 2012 6:11 pm
gan iwe79
Dwi newydd ddarllen dwy nofel gan yr awdur o America Jonathan Franzen, sef The Corrections a Freedom. Nofelau llenyddol ond hynod ddarllenadwy!

Ar hyn o bryd dwi'n darllen Y Lon Wen gan Kate Roberts

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sad 25 Awst 2012 11:22 am
gan TomJenkins
Oes rhywun yn gwybod pwy oedd y ddau fardd arall oedd yn deilwng o'r Goron yn yr Eisteddfod eleni? Ai Mari George oedd un ohonyn nhw?

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 10 Medi 2012 11:39 am
gan Muralitharan
Elinor Gwynn oedd un. Tydi'r Cyfansoddiadau ddim wrth law, ond hi oedd dewis Penri Roberts. Clywais enwi Mari George hefyd.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 10 Medi 2012 11:58 am
gan Jon Sais
Afallon gan Robat Griffiths

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Llun 10 Medi 2012 12:24 pm
gan sian
Pigau'r Sêr - J G Williams - Hyfryd!

Newydd orffen "Blasu" gan Manon Steffan Ros - Hyfryd hefyd!

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Maw 18 Medi 2012 3:05 pm
gan ailisradd
Ienctid yw 'Mhechod gan John Rowlands. (O'n i'n aros dros y penwythnos mewn llety gwely-a-brecwast y mae'r awdur yn ei redeg!)

Moeswers y stori: gall caru merch ar yr slei tra mai gweinidog ei chapel hi ydach chi ddifrodi eich priodas a'ch gallu i bregethu - wir yr! Mae'n fwy cymhleth na hynny, wrth gwrs :)

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Maw 18 Medi 2012 9:11 pm
gan anffodus
Ddarllenis i Ienctid yw Mhechod chydig yn ol. Mi wnes i fwynhau ond o'dd y diweddglo'n ddigon diddim rywsut. Fatha 'sa John Rowlands 'di methu meddwl sut i ddod a'r llyfr i ben a 'di neud o mor syml a phosib. Do'n i'm yn disgwl digwyddiad mawr na dim byd rhy ddramatig ond do'n i'm yn meddwl bod o'n gydnaws a gweddill y nofel.

Am ddarllen Llawer is na'r Angylion neu Arch ym Mhrag nesa.

Re: Be da chi'n ei ddarllan.....

PostioPostiwyd: Sad 15 Rhag 2012 2:17 pm
gan ManonElin
'Siarad' gan Lleucu Roberts ar hyn o bryd.
Wedi darllen 'Blasu' gan Manon Steffan Ros yn ddiweddar - gwych iawn!