gan Siani » Mer 27 Tach 2002 11:14 pm
Mae'n flin iawn 'da fi, bawb! Ar ol dechrau'r drafodaeth yn llawn brwdfrydedd digwyddodd rhai pethau annisgwyl yn fy 'ngwaith i, a rwy wedi bod oddi cartref am y rhan fwyaf o'r pythefnos/tair wythnos diwethaf, ac felly wedi diflannu o fan hyn hefyd. Ond rwy nol nawr, popeth wedi ei ddatrys, ac yn awyddus i drafod "Y Pla" yn fanwl.
I ddechrau gyda hyd y nofel - ydy, mae'r awdur yn cymryd ei amser yn dweud y stori, sy (yn anffodus) yn beth prin mewn nofelau Cymraeg. Rwy'n cytuno gyda'r ddau ohonoch chi, Nic ac Alys, am hyn. Yn bendant, Alys, mae rhaid i nofel gyrraedd ei hyd naturiol - beth bynnag y bo. Mae nofel ond yn rhy hir neu'n rhy fyr os yw hi'n rhy fyr i lawn ymdrin a'r themau a'r cymeriadau, ac ond yn rhy hir os nad oes digon ynddi i ymestyn dros ganoedd o dudalennau. Mae rhai nofelau byr iawn yn rhyfeddol - beth am "Lleian Llan Llyr" Rhiannon Davies Jones? Rhaid bod honno yn llawer llai nag 20,000 o eiriau - yn nes at 15,000, siwr o fod. Ond eto i gyd, Nic - rwy'n cytuno bod prinder o nofelau hir yn Gymraeg. Yn Saesneg rwy'n gyfarwydd a darllen y pethau enfawr 'ma, heb feddwl dwywaith. Rwy'n agor un o'r rheiny gyda'r teimlad hyfryd o bleserus 'ma o wybod y bydda i'n gallu byw gyda'r cymeriadau ynddi am gyfnod hir, ac ymgartrefu ym myd y nofel yn llwyr, a'i wneud yn rhan o 'myd i am, efallai, rhai wythnosau. Ond pan rwy'n troi at y Gymraeg, beth sy'n digwydd fel arfer? Maen nhw drosodd bron cyn i fi ddysgu enwau'r cymeriadau. Iawn, rwy newydd ddweud bod dim byd yn bod ar nofelau byr, ond rwy'n credu bod llawer o awduron Cymraeg yn creu plotiau straeon byrion hir yn y bon, sy'n troi i mewn i nofelau byr. Rwy'n credu bod yr Eisteddfod ar fai am hyn - yn enwedig cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith. Pryd mae'r rhestr testunau yn cael ei gyhoeddi? Yn hwyr yng ngwanwyn blwyddyn yr Eisteddfod, rwy'n credu - sy'n rhoi prin wyth mis i nofelydd feddwl am syniad, llunio plot, ysgrifennu drafft gyntaf, wedyn ail ysgrifennu, wedyn paratoi'r teipysgrif, wedyn ei gopio tair gwaith, ac wedyn ei rwymo - ac wedyn gwneud yn siwr bod y peth yn cyrraedd y Steddfod erbyn Rhagfyr 1af! - Ydyn, maen nhw (yn eu doethineb mawr) wedi symud y dyddiad cau ers dwy flynedd o Ionawr i Ragfyr. Mae'n amhosibl gwneud hyn i gyd yn yr amser - onibai bod rhywbeth gyda chi'n barod sy'n digwydd ffitio'r testun, ond hyd yn oed wedyn dyw hynny ddim yn gadael llawer o amser, gan gofio bod pob nofelydd Cymraeg (ar wahan i Bethan Gwanas) yn gweithio hefyd ac yn sgrifennu yn eu hamser sbar. Mae yna, wrth gwrs, cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen, sy'n agored, felly gallwch chi gymryd blynyddoedd dros y gwaith - ond er bod nhw'n cynnig rhyw bum mil fel gwobr, mae pawb, o ddewis, eisiau'r medal, on'd yn nhw? Y Fedal, y llwyfan, seremoni gyda'r Orsedd ... does dim syndod bod y rhan fwyaf yn cystadlu yn y Fedal yn lle'r Daniel Owen - ac mae'r Eisteddfod yn cwyno, ac eisiau gwybod pam! Ail reswm: fel rwy wedi dweud yn barod, gweithgaredd rhan amser yw sgrifennu nofelau i bron pob nofelydd Gymraeg, ac mae'n cymryd llawer o ddyfalbarhad, sylw ac amser i sgrifennu nofel hir, uchelgeisiol. Faint sy a'r amser a'r egni? Dyna pam, rwy'n credu, bod cymaint o nofelau fel petaen nhw'n grynodeb onofel yn unig.
Rwyt ti'n iawn, Alys, mae cymaint o nofelau hanes (rhai Saesneg, beth bynnag) yn ymdrin a chymeriadau "real", enwog - ond mae traddodiad hir gan y nofel hanes Gymraeg o ymdrin a'r "taeogion", y bobl gyffredin. Ychydig iawn o nofelau hanes Gymraeg sy am "y mawrion" - mae hynny'n rhoi mwy o ryddid i awdur, fel sy'n digwydd yma gyda "Y Pla". Heb boeni am ddilyn cwrs bywyd cymeriad "hanesyddol" yn slafaidd, gall awdur ganolbwyntio ar sgrifennu nofel, nid bywgraffiad.