Llyfr mis Tachwedd - "Y Pla" gan Wiliam O Roberts

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth yw eich barn chi am "Y Pla"?

Gwych
8
80%
Da
2
20%
Gweddol
0
Dim pleidleisiau
Gwael
0
Dim pleidleisiau
 
Cyfanswm pleidleisiau : 10

Llyfr mis Tachwedd - "Y Pla" gan Wiliam O Roberts

Postiogan Siani » Sad 02 Tach 2002 6:06 pm

I ddechrau'r drafodaeth, beth am syniad o beth yw eich argraffiadau cyntaf chi o'r nofel hon? Gwnes i fwynhau'r nofel hon yn fawr, ac rwy'n ddiolchgar i'r aelodau a'i hawgrymodd hi - diolch am ledaenu'r Pla. Mwynheuais i, am reswm sy falle yn isel-ael i rai, ond i fi yn un sy'n holl bwysig ac yn aml yn brin mewn nofel - wrth ei darllen ro'n i'n gweld lluniau, yn clywed syniau, yn byw gyda'r cymeriadau ac yn anghofio mod i'n darllen geiriau ar ddarnau o bapur, ac ar ol ei darllen mae'r delweddau yn aros yn y dychymyg, yn lliwgar ac yn graffig. Yn fy marn i, dyna ddylai fod nod pennaf pob nofelydd. Cytuno gyda fi? Gwych. Anghytuno gyda fi? Gwych hefyd. Beth yw eich barn chi?
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe

Postiogan nicdafis » Sul 03 Tach 2002 4:07 pm

Rhaid i mi ddechrau gan gyfaddau mod i heb orffen y nofel eto. :wps:

Dw i wedi mwynhau yn fawr iawn hyd yn hyn, ac dw i'n gallu dweud heb os neu oni bai taw hon yw'r nofel orau ond un (ar ôl <i>Un Nos Ola</i>) dw i wedi darllen yn y Gymraeg.

Un o'r pethau dw i wedi mwynhau yw'r ffaith nad ydy Wil Roberts yn ofni cymryd ei amser wrth ddweud ei stori. Yn rhy aml mewn nofelau Cymraeg, yn enwedig y rhai sy wedi'i sgwennu ar gyfer rhyw gystadleuaeth Eisteddfodol, mae'r stori yn cael ei phrysio gormod. Sa i'n gwybod os ydy awduron Cymraeg yn credu bod <i>short attention span</i> yn broblem mawr gyda darllenwyr Cymru, ond mewn sawl nofel dw i wedi darllen yn diweddar dw i'n cael yr argraff mod i'n cael fy llusgo o un <i>punchline</i> i'r llall. Dydy'r syniadau ddim wedi cael cyfle i aeddfeddu neu rywbeth. Wnaeth hyn yn sboilo <i>Wele Gwawrio</i> i mi i ryw raddau. Ro'n i'n ffeindio <i>Blodyn Tatws</i> Eirig Wyn bron yn amhosib i ddarllen, am yr un rheswm. Rhy arwynebol.

Peth arall dw i wedi mwynhau yw bod hi'n nofel <b>uchelgeisiol</b>. Sdim arwydd o siarad i lawr i'r darllenwr, ac mae'n ddigon barod i drio pethau newydd ynglyn â ffurf ac ati. Dyw hi ddim yn nofel hawdd iawn i'w darllen, o leia nid i'r dysgwr eitha di-brofiadol hwn. Mae'r geirfa eang yn achosi trafferth, ond mae mil well 'da fi y fath anhawster na'r diflasrwdd sy'n dod wrth darllen llyfr sy ddim yn barod i herio ei darllenwyr.

(Rhagor i ddod. Mynd mas heno. Ydy unrhywun arall wedi ei darllen?)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Alys » Llun 04 Tach 2002 9:08 am

Dwi wedi'i mwynhau'n fawr iawn hefyd. Dwi'n cytuno ei bod hi'n nofel fyw iawn (a na dwi ddim yn meddwl bod hynny'n beth isel-ael i'w ddweud, beth bynnag y syniadau y mae nofel yn ceisio ei rhoi, mae'n rhaid iddi gydio yn y darllennydd er mwyn eu rhoi ar draws), a dwi'n hoffi'r darlun o'r cyfnod. Mae cymaint o nofelau hanesyddol yn canolbwyntio ar y bobl bwysig (am resymau dyna am bwy ydi'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth, debyg), ond mae'r Pla hefyd yn rhoi lle i'r taeogion ayb. A dydi o ddim yn ofni portreu budredd y cyfnod chwaith. Mae na lot o hiwmor ynddi hefyd, a pheth o'r hiwmor yn dod o chwarae gyda ffurfiau sgwennu, ond yn bwysig, dwi ddim yn meddwl fy hun bod hynny'n tarfu ar fwynhad y darllennydd (er ro'n i'n dechrau blino ar gromfachau ar adegau).

O ran be dwedodd Nic (gobeithio mwynheuest ti dy noson allan) am faint nofelau, dwi'n cytuno bod na lawer o nofelau byr yn y Gymraeg, ac efallai dim digon o bethau hir, ond dydi hyd llyfr ddim o reidrwydd yn bwysig. Nofel dda ydi nofel dda. Ac mae'n rhaid dweud ches i mo'r argraff bod Wele'n Gwawrio yn llawn sound-bites. Ond amser maith ers imi ei darllen!

Ond nôl i'r Pla ... uchelgeisiol ydi'r gair iawn. Dwi'n siwr down ni i drafod y syniadau tu ôl i'r nofel nes ymlaen, ond o ran plot, beth oedd mor da oedd y ffordd y mae o'n dilyn edefynnau cwbl wahanol trwyddi, yn dod â'r cyfan at ei gilydd yn y diwedd. Ac o ran hyd y nofel, ie, roedd o'n cymryd ei amser i gyfleu'r holl drywyddau gwahanol, a dwi'n meddwl bod yr agwedd hwn yn cyfrannu at ei gwneud yn ddarlun mor fyw.

Wel dyna 'mhwt am y tro.
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Y Pla

Postiogan jimkillock » Gwe 15 Tach 2002 3:36 pm

Mae o'n un o'm hoff ysgrifenwyr i .. Cymraeg neu Saesneg / ieithoedd eraill .. mae'n dro ers i mi ddarllen y nofel, ond mae'n ddiddorol bod y themâu dal yn bwysig; cyflafiaeth, Islam, armwyebolrwydd be ydan ni ei chredu .. Ac hefyd mewn iaith sydd yn agos at dafodiaeth. Mae'n dweud llawer nad ydy o'n mor boblogaidd. Efallai effaith o fod yn feirniadol o gymdeithas Cymraeg?
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Siani » Mer 27 Tach 2002 11:14 pm

Mae'n flin iawn 'da fi, bawb! Ar ol dechrau'r drafodaeth yn llawn brwdfrydedd digwyddodd rhai pethau annisgwyl yn fy 'ngwaith i, a rwy wedi bod oddi cartref am y rhan fwyaf o'r pythefnos/tair wythnos diwethaf, ac felly wedi diflannu o fan hyn hefyd. Ond rwy nol nawr, popeth wedi ei ddatrys, ac yn awyddus i drafod "Y Pla" yn fanwl.

I ddechrau gyda hyd y nofel - ydy, mae'r awdur yn cymryd ei amser yn dweud y stori, sy (yn anffodus) yn beth prin mewn nofelau Cymraeg. Rwy'n cytuno gyda'r ddau ohonoch chi, Nic ac Alys, am hyn. Yn bendant, Alys, mae rhaid i nofel gyrraedd ei hyd naturiol - beth bynnag y bo. Mae nofel ond yn rhy hir neu'n rhy fyr os yw hi'n rhy fyr i lawn ymdrin a'r themau a'r cymeriadau, ac ond yn rhy hir os nad oes digon ynddi i ymestyn dros ganoedd o dudalennau. Mae rhai nofelau byr iawn yn rhyfeddol - beth am "Lleian Llan Llyr" Rhiannon Davies Jones? Rhaid bod honno yn llawer llai nag 20,000 o eiriau - yn nes at 15,000, siwr o fod. Ond eto i gyd, Nic - rwy'n cytuno bod prinder o nofelau hir yn Gymraeg. Yn Saesneg rwy'n gyfarwydd a darllen y pethau enfawr 'ma, heb feddwl dwywaith. Rwy'n agor un o'r rheiny gyda'r teimlad hyfryd o bleserus 'ma o wybod y bydda i'n gallu byw gyda'r cymeriadau ynddi am gyfnod hir, ac ymgartrefu ym myd y nofel yn llwyr, a'i wneud yn rhan o 'myd i am, efallai, rhai wythnosau. Ond pan rwy'n troi at y Gymraeg, beth sy'n digwydd fel arfer? Maen nhw drosodd bron cyn i fi ddysgu enwau'r cymeriadau. Iawn, rwy newydd ddweud bod dim byd yn bod ar nofelau byr, ond rwy'n credu bod llawer o awduron Cymraeg yn creu plotiau straeon byrion hir yn y bon, sy'n troi i mewn i nofelau byr. Rwy'n credu bod yr Eisteddfod ar fai am hyn - yn enwedig cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith. Pryd mae'r rhestr testunau yn cael ei gyhoeddi? Yn hwyr yng ngwanwyn blwyddyn yr Eisteddfod, rwy'n credu - sy'n rhoi prin wyth mis i nofelydd feddwl am syniad, llunio plot, ysgrifennu drafft gyntaf, wedyn ail ysgrifennu, wedyn paratoi'r teipysgrif, wedyn ei gopio tair gwaith, ac wedyn ei rwymo - ac wedyn gwneud yn siwr bod y peth yn cyrraedd y Steddfod erbyn Rhagfyr 1af! - Ydyn, maen nhw (yn eu doethineb mawr) wedi symud y dyddiad cau ers dwy flynedd o Ionawr i Ragfyr. Mae'n amhosibl gwneud hyn i gyd yn yr amser - onibai bod rhywbeth gyda chi'n barod sy'n digwydd ffitio'r testun, ond hyd yn oed wedyn dyw hynny ddim yn gadael llawer o amser, gan gofio bod pob nofelydd Cymraeg (ar wahan i Bethan Gwanas) yn gweithio hefyd ac yn sgrifennu yn eu hamser sbar. Mae yna, wrth gwrs, cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen, sy'n agored, felly gallwch chi gymryd blynyddoedd dros y gwaith - ond er bod nhw'n cynnig rhyw bum mil fel gwobr, mae pawb, o ddewis, eisiau'r medal, on'd yn nhw? Y Fedal, y llwyfan, seremoni gyda'r Orsedd ... does dim syndod bod y rhan fwyaf yn cystadlu yn y Fedal yn lle'r Daniel Owen - ac mae'r Eisteddfod yn cwyno, ac eisiau gwybod pam! Ail reswm: fel rwy wedi dweud yn barod, gweithgaredd rhan amser yw sgrifennu nofelau i bron pob nofelydd Gymraeg, ac mae'n cymryd llawer o ddyfalbarhad, sylw ac amser i sgrifennu nofel hir, uchelgeisiol. Faint sy a'r amser a'r egni? Dyna pam, rwy'n credu, bod cymaint o nofelau fel petaen nhw'n grynodeb onofel yn unig.

Rwyt ti'n iawn, Alys, mae cymaint o nofelau hanes (rhai Saesneg, beth bynnag) yn ymdrin a chymeriadau "real", enwog - ond mae traddodiad hir gan y nofel hanes Gymraeg o ymdrin a'r "taeogion", y bobl gyffredin. Ychydig iawn o nofelau hanes Gymraeg sy am "y mawrion" - mae hynny'n rhoi mwy o ryddid i awdur, fel sy'n digwydd yma gyda "Y Pla". Heb boeni am ddilyn cwrs bywyd cymeriad "hanesyddol" yn slafaidd, gall awdur ganolbwyntio ar sgrifennu nofel, nid bywgraffiad.
Rhithffurf defnyddiwr
Siani
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Sad 31 Awst 2002 9:01 pm
Lleoliad: Abertawe


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron