Dwy ddim yn tueddu mynd i siopau mawr fel Waterstones a Borders, ond ma 'da fi habit o orfod bod perchen llyfrau wy wir yn hoffi (yn yr un modd a ffilms a CDs.)
Blackwells Rhydychen yw'r gwendid mawr pan mae'n dod at lyfrau
Sda fi hoffter o lyfrgelloedd, ond allai ddim gweud 'mod i'n mynd i ymdrech i ymweld â nhw (ddim ers Coleg ta beth.) Cyn iddyn nhw
chwalu canol Caerdydd, odd y llyfrgell ganolog yn wych am fenthyg CDs, ond dyw'r dewis mewn rhai llai, fel
Llyfrgell Treganna, ddim cystal. Ma ffilmiau diddorol i gael yna fel arfer - a ma'n neis dewis ffilm 'dy'ch chi erioed 'di clywed amdano ar hap - ond ma'r pris rhentu tua'r un faint a rhywbeth fel lovefilm neu amazon, a gan bod dewis rheini mor eang, does dim cystadleuaeth (oni bai bod chi'n chwantu cymeriad y llyfrgell/ neu'r awyrgylch gymunedol.)
Wedi dweud hynny oll, dwi yn credu taw'r
llyfrgell newydd fydd y peth gorau am y datblygiad yng nghanol Caerdydd, a wy wir yn edrych 'mlaen at weld shwd ddewis, a shwd awyrgylch, fydd fan'na.