A'i dychmygu oeddwn i bod gweinidog o'r llywodreath wedi awgrymmu wythnos yma y dylai llyfrgelloedd fod ar agor 24/7? Dwi ddim yn meddwl byddai'n sybniad da iawn. Ar un llaw byddai'n wneud yn fwy cyfleus i'w defnyddio, ond dwi'n amau fyddai newid mawr mewn patrymau benthyg llyfrau pobl o'i gymharu a chost potensial y fath gynllun.
Dwlwen a ddywedodd:Cyn iddyn nhw chwalu canol Caerdydd, odd y llyfrgell ganolog yn wych am fenthyg CDs, ond dyw'r dewis mewn rhai llai, fel Llyfrgell Treganna, ddim cystal. Ma ffilmiau diddorol i gael yna fel arfer - a ma'n neis dewis ffilm 'dy'ch chi erioed 'di clywed amdano ar hap - ond ma'r pris rhentu tua'r un faint a rhywbeth fel lovefilm neu amazon, a gan bod dewis rheini mor eang, does dim cystadleuaeth (oni bai bod chi'n chwantu cymeriad y llyfrgell/ neu'r awyrgylch gymunedol.)
Es i lyfrgell Treganna i chwilio am ffilmiau wedi i Choices (yr unig siop rhentu fDVD's yn yr ardal) gau, a chael fy siomi. Mae'r dewis yn fach, y ffilmiau sydd yno yn rhai trashy rhan fwyaf ac mae'n reit drud fel ti'n nodi.
Dwlwen a ddywedodd:Wedi dweud hynny oll, dwi yn credu taw'r llyfrgell newydd fydd y peth gorau am y datblygiad yng nghanol Caerdydd, a wy wir yn edrych 'mlaen at weld shwd ddewis, a shwd awyrgylch, fydd fan'na.
Gan obeithio bod yr ystod o nofelau sydd ar ochr yr un dros dro ddim yn mynd i adlewyrchu y dewis yn yr un newydd!