Barddoniaeth ar gyfer priodas

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Barddoniaeth ar gyfer priodas

Postiogan ElinorSian82 » Gwe 09 Meh 2006 2:43 pm

Ma gennai ffrind yn priodi y flwyddyn nesaf a fi sydd wedi cal y dasg difyr o chwilio am farddoniaeth iddi. Mae angen rhywbeth am wn i sy'n neis ychydig yn mwshi a entimental efallai. Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau? dwi wedi chwilio ar y we ond sdim lot yna! Diolch.
ElinorSian82
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Maw 04 Hyd 2005 9:45 am

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 09 Meh 2006 2:52 pm

Pan neu di ofyn am rywun sgwennu cerdd yn lle ? Mae'n siwr bydd Bardd yn digon hapus i roid rhywbeth i lawr am pris teg.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan sian » Gwe 09 Meh 2006 3:05 pm

Ie, neu beth am Hoff Gerddi Serch Cymru
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan ElinorSian82 » Llun 12 Meh 2006 1:52 pm

hm ella ond dwi'n trio bod yn scatia cal rhywbeth off yr internet, neu me yna groeso i chi ysgrifennu cerdd i fi!! diolch eniwe
ElinorSian82
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 54
Ymunwyd: Maw 04 Hyd 2005 9:45 am

Postiogan Geraint » Iau 07 Medi 2006 11:21 am

I ymateb i gwestiwn Margiad Ifas yn yr edefyn sydd wedi cloi, dwi wedi bod i ddau briodas y blwyddyn yma a wedi clywed yr un gerdd yn cael ei ddarllen ynddynt, sef Priodas, gan Dic Jones. Yr unig lein dwi'n cofio yw 'Rhagor eich pabell bellach'. Beth bynnag, mae hi'n gerdd hyfryd, mi oedd o yn Golwg ychydig fisoedd yn ol. Mae'r gerdd am bar Indiaid Apache sydd am briodi.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Geraint (un arall) » Iau 07 Medi 2006 7:07 pm

I ategu Geraint dwi wedi bod i ddwy briodas leni lle darllenwyd priodas gan Dic Jones. Ma rhaid i fi ddeud Ger na nes i gymryd dim sylw ohoni y tro cyntaf clywais i hi! Ond mi o'n i'n chydig mwy relaxed yn yr ail briodas a mi lwyddais i wrando arni hi. Ma hi'n gerdd dda iawn
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint (un arall)
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 95
Ymunwyd: Mer 12 Chw 2003 8:42 pm
Lleoliad: Caerdydd

Cerdd Priodas gan Dic Jones

Postiogan Cemlyn Williams » Mer 21 Tach 2007 1:55 pm

Os rhwyn a copi or gerdd Priodas Dic Jones neu gwyboadeth ar lle gai afal ar un.
Cemlyn Williams
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Llun 19 Tach 2007 8:57 pm

Postiogan Meg » Mer 21 Tach 2007 2:42 pm

'Galar a Gorfoledd' neu rywbeth fel'na - llwyth o gerddi a darnau addas ar gyfer priodasau, angladdau ayyb. Wedi ei gyhoeddi eleni.
Meg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 223
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 1:06 pm
Lleoliad: Gogledd

Postiogan Positif80 » Mer 21 Tach 2007 5:45 pm

Mae limrigau budr am ysgaraid yn mynd i lawr yn wych fel arfer.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Garreg Lwyd » Iau 22 Tach 2007 10:28 pm

Geiriau Gorfoledd a Galar yw'r llyfr. Gomer yw'r cyhoeddwr a D. Geraint Lewis sy wedi casglu'r darnau at ei gilydd. Lot o bethau gwerthfawr ar gyfer eu darllen mewn pob math o achlysuron (gan gynnwys priodasau sifil a priodasau un-rhyw).
Ni leddir yr un genedl nac iaith onid gan ei phobl ei hun.
D. J. Williams
Garreg Lwyd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Maw 25 Hyd 2005 10:25 am
Lleoliad: Rhydaman

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai