gan Geraint » Iau 07 Medi 2006 11:21 am
I ymateb i gwestiwn Margiad Ifas yn yr edefyn sydd wedi cloi, dwi wedi bod i ddau briodas y blwyddyn yma a wedi clywed yr un gerdd yn cael ei ddarllen ynddynt, sef Priodas, gan Dic Jones. Yr unig lein dwi'n cofio yw 'Rhagor eich pabell bellach'. Beth bynnag, mae hi'n gerdd hyfryd, mi oedd o yn Golwg ychydig fisoedd yn ol. Mae'r gerdd am bar Indiaid Apache sydd am briodi.