Ar ol fy nghwyno am safon Pam Ddaw'r Dydd... dwi am gerdded y cerdded yn lle jyst siarad y siarad. Dwi wedi dechrau ar fy llyfr fi fy hun! Ond mi fyswn i'n hoff o gael help llaw, oherwydd dydw i erioed wedi gwneud rywbeth fel hyn orblaen. Felly dwi am roi darn o fy llyfr yma ar Maes-E i chi gael rhoi eich barn arno. Os mae'n ddarn o gachu rhost plis dywedwch wrtha i, fel y gallai beidio fy embarassio fy hyn yn y dyfodol.
Gyda llaw, does gen i ddim unrhyw fath o spellchecker cymraeg ar fy PC, felly mae hwn braidd yn ryff. A mae o'n reit boring, ond mae hynny yn unig i danlinellu pa mor ddiddorol mae bywyd Sion Bugail yn mynd ar ol y darn canlynol. A dwi yn sylwi bod Sion Bugail yn enw gwarthus, ond mae wedi ei gyfiaethu o John Shepherd, am fy mod i wedi ysgrifennu drafft ryff o'r llyfr yma yn saseneg tua pedair mlynedd yn ol. Dyma fo, a.y.y.b.:
Pennod 1
Rhwygodd Siôn Bugail ychydig rhagor o chwyn
o’r pridd, a’r ymdrech yn blingo ei ddwylo coch.
Pigau bach poenus, mecanweithiau amddiffyn ei
brau yn turio mewn i gledr ei law. Roedd hi’n addo
glaw, wrth i’r cymylau trymion uwch ei ben ddisgyn
fel cychod yn suddo, gan droi’n las tywyll yn llewyrch
ariannaidd y lleuad. Roedd Bugail am iddi fwrw glaw,
yn rhannol oherwydd ei fod yn y bôn yn rhamantydd
ac yn hoffi’r syniad o’r camsyniad teimladol, ond
hefyd am fod bywyd wedi ei gicio i’r llawr gymaint
o weithiau fel y buasai’n waeth iddo roi ei droed ar
ei wddw a gwthio ei wyneb i’r baw, os dim ond i gau
pen y mwdwl.
Ond ni ddaeth y diferion. Disgynnodd y niwl trwm o’i
gwmpas fel llen. Meddyliodd Bugail am roi’r gorau i’r
chwynnu, a chilio i’w welyd cynnes braf lle byddai ei
ddyweddi yn disgwyl amdano. Ond ni chafodd ddim cysur
o feddwl am hynny. Byddai’n well ganddo chwynnu’r ardd,
a chnoi cil dros ddiwrnod gwaethaf ei fywyd. Enaid sensitif
ydoedd, a’r diwrnodau oedd y gwaethaf yn aml. Roedd ef
wedi teimlo dan bwysau drwy gydol ei fywyd, yn gyntaf gan
ei fam, yna gan ei ‘ffrindiau’ yn y coleg, ac ers hynny gan
fywyd yn gyffredinol. Roeddent fel petaent yn synhwyro rhyw
wendid ynddo, a chythru amdano fel siarc yn synhwyro gwaed
yn y dŵr bas. Roedd Mrs Salamandy, a ofalai am yr
amgueddfa delwau cŵyr lle câi wybod yn fuan na fyddai
swydd iddo bellach, yn anghenfil gydag wyneb fel carreg a
wnai bob dim o fewn ei gallu i sugno pob owns o hunan-barch
a oedd gan Bugail yn ei gorff eiddil.
Ar ôl dwy flynedd o weithio yn yr amgueddfa
delwau cŵyr o’r diwedd roedd e wedi
cael swydd oedd, yn ei farn ef, yn deilwng o’i
ddawn. Eicon wedi heneiddio oedd Roger Moore
ond eicon serch hynny, ac yn siwr o fod yn
boblogaidd gyda’r twristiaid o dramor oedd mor
barod gyda’u camerau. Roedd Bugail wedi cael
y cyfle i’w brofi ei hun fel pen gerflunydd, tra oedd
Harri Evans wrthi’n gorffen ei gofeb i Diana.
Roedd Bugail wedi cyflawni campwaith, gan naddu’n
ofalus bob asgwrn golygus yng nghorff yr hen Bond.
Dyma ei gampwaith, yn ei dyb o.
Yna daeth y dadorchuddio, i dyrfa oedd yn cynnwys
maer Grimsby, a’r sylweddoliad wrth i’r lliain gael ei dynnu
bod Syr Roger Moore, diolch i’r ffaith bod Bugail wedi
ei adael yn rhy agos i’r gwresogydd drwy’r nos, bellach
yn edrych yn debycach i Syr Patrick Moore.
Pwniodd Shepherd y ferfa yn ddig, a honno’n atseinio’n
wag a metalig. Roedd y ferfa’n wag gan fod Bugail wedi
rhwygo yn ei ddicter trwy’r chwyn fel peiriant torri gwair,
gan eu gadael nhw’n gorwedd.
‘Ydach chi’n mwynhau chwynnu?’
Bu i’r dim i Bugail golli ei wynt. Roedd yn gas ganddo rywun
yn ei weld yn y fath gyflwr, a sychodd ei ddagrau’n gyflym
gyda llawes ei siwmper.
‘Mae’n ddrwg gen i?’ atebodd, gan edrych i gyfeiriad y llais.
Hongiai dau lygad disglair, fel llygaid cath, rhwng y coed
ar y chwith iddo.
‘Ydach chi’n mwynhau chwynnu?’ gofynnodd y llygaid,
dau bwll bach o arian tawdd. ‘Uchafbwynt fy niwrnod,’
mwmiodd Shepherd. Oedd yn wir i raddau.
Symudodd y dyn o gysgod y coed. Dyn ifanc ydoedd,
yn ei ugeiniau cynnar efallai, gyda chroen gwelw a safai
allan yn erbyn ei wallt du a’r crys Hawaiian cwbl erchyll
a wisgai. Roedd lluniau mwnciod ar y crys. Nid oedd
Shepherd erioed wedi gweld neb yn gwisgo crys Hawaiian
yn Grimsby, yn gyntaf am na fyddai neb yn treulio ei
wyliau yn rhywle oedd yn edrych ac yn ogleuo yr un mor
swynol â thip sbwriel, a hefyd achos bod y tywydd yn
well ar y blaned Iau.
‘Rydych chi hefyd yn anfodlon ar eich bywyd, ydw i’n
gywir?’ gofynnodd y dyn. Roedd ei acen yn anodd ei
lleoli. O Wlad Groeg efallai, meddyliai Bugail. ‘Sut
wyddech chi hynna?’ grwgnachodd Bugail, ei law yn
cydio mewn tri chwynnyn mawr a’u rhwygo’n wyllt
allan o’r tir.
‘Dach chi’n adnabod y siop pysgod a sglodion lawr
y ffordd?’ gofynnodd y dyn diarth.
‘Ydw.’
‘Dewch i nhgyfarfod i yno am un o’r gloch yfory,
os ydych am roi’r gorau i wastraffu eich bywyd.’
Cyffuriau, meddyliodd Bugail yn syth. Y crys Hawaiian,
yr acen Roegaidd… deliwr cyffyriau nodweddiadol oedd
hwn. Fwy na thebyg bod ganddo iot yn llawn opiwm yn
nociau Grimsby. Fwy na thebyg ei fod am i Bugail gychwyn
ar fywyd o smyglo cyffuriau, a diweddu ei fywyd yn
cael ei saethu fel The Godfather, neu ei falu efo llif
gadwyn yn y gawod fel y ffilm Scarface newydd!
‘Dim diolch,’ atebodd Shepherd, gan blygu ei ben
a pharhau gyda’i waith. Disgwyliodd i’r dyn adael.
‘Dw i’n siwr y byddech chi’n mwynhau,’ meddai’r dyn.
‘Dydan ni ddim yn cyboli efo’r math yna o beth ffordd
hyn’, meddai Shepherd, yn teimlo’n sydyn fel ei daid.
‘Waeth i chi fynd nôl i’ch iot a mynd adra’.
‘Iot?’ gofynnodd y dyn mewn penbleth.
‘Mi wna i ffonio’r heddlu, felly heglwch hi o’ma’,
bytheiriodd Bugail. Cafodd sioc pan ddechreuodd
y dyn chwerthin lond ei fol. Roedd ganddo chwerthiniad
cynnes, yn hollol wahanol i’r llais oer, dirgel.
‘Rydych chi wir yn bobl ddrwgdybus, yn niwsans pur.’
Doedd Bugail ddim yn hoffi cael ei alw’n niwsans ryw
lawer.
‘Byddwn i’n eich galw chi’n niwsans, yn dod i ngardd i
gefn liw nos, mewn crys fyddai’n dallu tylluan’ ysgyrnygodd
Bugail. ‘Dydw i ddim yn gwastraffu fy mywyd, a dw i ddim
isio bywyd arall’.
‘Ah, yr un mwyaf defnyddiol o blith yr emosiynau dynol,
gwadu. Mi wela i di yfory am un o’r gloch.’ Diflannodd y
dyn i’r cysgodion.
Roedd y cyfarfyddiad wedi rhoi ysgytwad i Bugail.
Eisteddodd yn ei gwrcwd yn y tywyllwch, gan feddwl
am yr hyn roedd y dyn wedi ei ddweud. Sut gallai fod
wedi gwybod fod Bugail yn anfodlon ar ei fywyd? Roedd
yn siwr o gael ei gardiau fore trannoeth, felly waeth iddo
roi i notis i fewn yn syth. Beth oedd yn ei rwystro, am
unwaith, rhag taflu gofal i’r pedwar gwynt a chychwyn ar
fywyd newydd?
Paid â bod yn wirion, meddai wrtho ei hun Mae gen ti
dŷ, a ti’n priodi mewn tri mis. A be wyddost ti am
natur y gwaith? Hmmmm? Gallet ti fod yn pimpio yn
Aberdeen a m a wyddost ti. Hogyn dwl. Roedd llais ei fam
rywsut wedi ei gysylltu ei hun â’r rhan o’i feddwl oedd y
siarad synnwyr. Byddai’n rhai iddo aros yma, yn Grimsby,
gyda’i wraig. Byddai’n ymddiheuro am ei gamgymeriadau i Mrs Salamandy, a gobeithio na fyddai’n colli ei swydd.
Dringodd nôl i fyny i’w dŷ, i fyny’r grisiau simsan,
heibio’r stydi lle roedd yn siwr iddo weld ysbryd unwaith ,
ac i’w lofft. Roedd ei ddyweddi i’w gweld yn cysgu: wyddai
hi ddim byd am ei helbulon. Nid oedd gan Fugail ddim
achos cwyno amdani hi, o leiaf. Roedd hi’n berffaith hardd,
deallus a doniol, a gwelai yn Bugail yr hyn na allai ei weld
ynddo ei hun. Ond roedd Bugail yn teimlo’n flin drosto ei
hun ac yn teimlo fod bywyd wedi ei adael i lawr unwaith eto,
gan fod ganddi salwch meddwl oedd yn peri iddi weiddi
allan yn flin a heb reswm. Roedd y rhan fwyaf o bobl gyda’r
anhwylder hwn yn rhegi’n gwrs yn Saesneg, a gallent ymdoddi
i dyrfa yn hawdd, gan fod y mwyafrif o bobl yn Grimsby yn
rhegi’n gwrs yn Saesneg drwy’r amser. Ond nid yn unig roedd bytheiriadau Martha yn Gymraeg, ond fel y nododd y meddyg
yn ei ddiagnostig, bron iawn yn farddonol yn eu strwythur.
‘Beth sy’n bod’, gofynnodd hi, yn hollol effro, pan lithrodd
Bugail i’r gwely. ‘Dim byd,’ meddai Shepherd yn gelwyddog.
Rhoddodd ei fraich o’i chwmpas.
‘Meddylia, mewn tri mis byddwn ni’n
dweud – dos I chwarae dy nain, pharo! – gwnaf.’
Cusanodd Shepherd hi, a disgyn i gysgu.
Roedd Bugail am gynnig ei ymddiswyddiad ond mae’n
debyg mai dim ond pobl bwysig oedd yn cael gwneud
hynny. Felly bodlonodd ar roi’r gorau i’w swydd. Roedd
Mrs Salamandy wedi cael braw; fwy na thebyg ei bod
wedi gobeithio y byddai’n ymgreinio fel ci. Ond roedd
yn cymryd rheolaeth ar ei fywyd, ac nid oedd ganddo
dim swydd, dim pres, ac roedd yn priodi ymhen tri mis.
Cerddodd i mewn i’r siop tsips gan deimlo nad oedd
pimpio yn Aberdeen allan o’r cwestiwn yn llwyr. Roedd
y dyn yno eisoes, yn claddu mewn i blatiaid o sglodion
tew. Yng ngolau dydd roedd i’w weld hyd yn oed yn
fwy gwelw, ac roedd ei grys Hawaiian, yr un un ag
yr oedd wedi ei wisgo’r noson cynt, yn dal i serio’r
retina. Gwenodd wrth i Bugail eistedd.
‘Newidiest dy feddwl felly?” Doedd dim gwawd yn y
llais, dim ond hwyl.