'sai'r llif yn well (mae pobl eraill 'di son am fethu dilyn bob dim) 'set ti'n gwahaniaethu rhwng y paragraffau yn gliriach, dw i'n tybio. yn bersonol, dw i'n licio cael llinell rhwng pob paragraff, ond os nad wyt ti isio gwneud hynna, mae angen indent ar ddechrau pob un, yn gyson. mae hyn yn bwysig lle bo'r deialog, hefyd...
wedyn, dw i ddim yn siwr os wyt ti'n iawn i gadw at yr enw fel cyfieithiad uniongyrchol o'r Saesneg, ond bod gennyt ti pwynt i'w wneud sy'n gysylltiedig ar enw. fel arall, buasai dewis enw sydd yr un mor arferol yn y Gymraeg ag y mae 'Shepherd' yn y Saesneg yn ffitio i mewn yn well - mae 'Bugail' yn sefyll allan ac yn tynnu sylw, ac onibai bo chdi isio'r sylw 'na am reswm penodol, gwell hebddi...
wnaeth y camgymeriad efo'r pen-gerflun ddim fy argyhoeddi - unwaith bod cerflun yn barod, mae'n barod, ynde?! 'sai angen ffwrnais i'w ddadwneud, nid bach o wres canolog...
'fel y ffilm Scarface newydd!' - oes isio'r ! fan'ma? mae'r paragraff ei hun yn gweithio'n ddigon da fel y mae hi - weithie, mae ! fel'na yn fy nharo i fel gorymdrech - sbia! oedd hynna'n jôc! ac mae'r hiwmor yn ddigon cryf hebddi...
ac o'n i'n cael o'n bach o naid iddo benderfynu ymddiswyddo a mynd i'r caffi... ella bod angen eiliad clir o benderfyniad, rheswm penodol pam ei fod o'n dewis i'w wneud o?
ond mae gennyt ti arddull ffraeth ac anarferol, a chdi'n iawn bod angen pethe newydd fel'na yn y Gymraeg. dos amdani!
wnes i fwynhau rhain yn enwedig a ddywedodd:‘Ydach chi’n mwynhau chwynnu?’ gofynnodd y llygaid, dau bwll bach o arian tawdd. ‘Uchafbwynt fy niwrnod,’ mwmiodd Shepherd.
Cyffuriau, meddyliodd Bugail yn syth. Y crys Hawaiian, yr acen Roegaidd… deliwr cyffyriau nodweddiadol oedd hwn. Fwy na thebyg bod ganddo iot yn llawn opiwm yn nociau Grimsby. Fwy na thebyg ei fod am i Bugail gychwyn ar fywyd o smyglo cyffuriau, a diweddu ei fywyd yn cael ei saethu fel The Godfather, neu ei falu efo llif gadwyn yn y gawod fel y ffilm Scarface newydd!
‘Dim diolch,’ atebodd Shepherd, gan blygu ei ben a pharhau gyda’i waith.
Hogyn dwl. Roedd llais ei fam rywsut wedi ei gysylltu ei hun â’r rhan o’i feddwl oedd y siarad synnwyr.
Cerddodd i mewn i’r siop tsips gan deimlo nad oedd pimpio yn Aberdeen allan o’r cwestiwn yn llwyr.