Fy Llyfr I. (Dewiswch Deitl!)

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pa deitl fysa'n eich sbarduno i brynu'r llyfr yma?

Planed Lemon
2
20%
Ffatri Sosej
1
10%
Mewn
3
30%
Cysgod y Cryman
3
30%
Y Ser Uwchben
1
10%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 10

Postiogan Alys » Mer 27 Awst 2003 4:02 pm

Gorobeithiol.
Bob tro :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Aran » Mer 27 Awst 2003 4:09 pm

iesgob. rwan bydd rhaid i mi wneud 'ngorau i fod yn fytholneis. dio'm yn dod yn naturiol, 'wsti... :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Macsen » Mer 27 Awst 2003 5:40 pm

Aran a ddywedodd:www, na na na, sori, paid â chymryd o fel'na, do'n i ddim yn golygu dim byd sbeitlyd o gwbl - 'mond yn fatha hanner tynnu coes mewn ffordd gyfeillgar oedd hynna i fod, ac yn cyfeirio at y ffaith bod Alys wedi deud pethe cefnogol iawn amdanat ti mewn e-bost, a dyna oedd y rheswm o'n i wedi pigo i mewn i gynnig mewnbwn positif...


Paid a poeni, mi oeddwn i'n tynnu dy goes di hefyd. Mi oeddet ti'n tynnu fy nghoes i, a mi welais i hynny ac rhoi ateb berffaith dynny coeslyd y nol, ac rwan wn i ddim pwy sy'n tynny coes pwy a dwi wedi mynd yn groes fy llygaid. :ofn:

A dwi'n galw pawb yn chdi ar y rhyngrwyd, rhag iddyn nhw droi allan i fod yn hen. Heblaw am fy mrawd. Dwi'n ei alw fo'n 'Twit'.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Alys » Mer 27 Awst 2003 5:51 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Mi wnai bostio fy prologue ar ol edrych yn y geiriadur Bruce i ffendio'r cyfieithiad am 'prologue'.

IMJ a ddywedodd:Paid a poeni, mi oeddwn i'n tynnu dy goes di hefyd. Mi oeddet ti'n tynnu fy nghoes i, a mi welais i hynny ac rhoi ateb berffaith dynny coeslyd y nol, ac rwan wn i ddim pwy sy'n tynny coes pwy a dwi wedi mynd yn groes fy llygaid.

A dwi'n galw pawb yn chdi ar y rhyngrwyd, rhag iddyn nhw droi allan i fod yn hen. Heblaw am fy mrawd. Dwi'n ei alw fo'n 'Twit'.

Wel Ifan fydda i ddim yn licio fod yn or-feirniadol ond, er mod i'n licio'r gair "tynnu-coeslyd", fel arall mae'n rhaid imi ddweud mod i wedi gweld nifer o Ragymadroddion i nofelau sy'n llawer gwell na'r ymdrech uchod - a tydi o ddim yn esbonio ddim ar rediad y stori chwaith :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Macsen » Mer 27 Awst 2003 7:23 pm

Alys a ddywedodd:Wel Ifan fydda i ddim yn licio fod yn or-feirniadol ond, er mod i'n licio'r gair "tynnu-coeslyd", fel arall mae'n rhaid imi ddweud mod i wedi gweld nifer o Ragymadroddion i nofelau sy'n llawer gwell na'r ymdrech uchod - a tydi o ddim yn esbonio ddim ar rediad y stori chwaith


Aha! Dyw gwir bwrpas unrhyw ragymadrodd ddim yn dod yn gyfan i'r golwg tan eiriau olaf y nofel.

Geiriau olaf y nofel hwn:

Ac yna mi ddisgynodd piano ar ei ben.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Aran » Mer 27 Awst 2003 9:56 pm

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Geiriau olaf y nofel hwn:

Ac yna mi ddisgynodd piano ar ei ben.


o, bechod - dw i 'di darllen o'n barod... 8)

y diawl, ges i 'ngwneud gan yr hen dric 'gorddiniweidrwydd bwriadol'... un o fy hoff arfau fy hun... cywilyddus... rhaid mod i'n heneiddio...

sôn am heneiddio, fedra i'm coelio dy fod ti'n 'rhy ifanc' i unrhwybath, a deud y gwir. mae tôn dy sgwennu a dy siarad yn datgelu'r gwir. pryd gei di dy delegram brenhinol, 'te?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Alys » Iau 28 Awst 2003 8:22 am

Wel sdim amdani, bydd rhaid ichdi ailsgwennu'r diweddglo rwan fod ti di difetha pethau inni. :winc: Fydda i fyth yn darllen y diwedd cyn ei gyrraedd.
Piti, roedd Ac yna mi ddisgynnodd piano ar ei ben yn ddiweddglo braf hefyd ...


Balch o weld bod ambell un arall yn honni heneiddio hefyd :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Al Jeek » Iau 28 Awst 2003 8:30 am

Aran a ddywedodd:pryd gei di dy delegram brenhinol, 'te?

Mewn rhyw 81 mynedd y geith o un fo, a minnau dwy flynedd a dipyn ynghynt.
Fyd Ifs ddim ar y we am dipyn achos mae One.Tel (cwmni y we adre) yn cwyno am rhywbeth (dim fi nath Gruff!) a wedi suspendio account mam. :lol:
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Aran » Iau 28 Awst 2003 10:41 am

pobl ddrwg ma'n siwr, i bechu fel'na... :winc:

wel chwarae teg, os 'dy dy frawd 'mond yn bedwar ar bymtheg yna mae ganddo lais anarferol o aeddfed yn ei waith ysgrifenedig. fyddet ti'n cytuno, Alys?
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Al Jeek » Iau 28 Awst 2003 10:48 am

Wedi cwyno odda nhw fod mwy na un person yn logio ymalen yr un pryd - ond di hynna ddim yn bosib. Naill ai mae mam yn cysylltu neu mae y firewall/router fyny grisie yn gwneud.
So dim byd doji. Nhw sydd di neud mistake neu mae rhywun di dwyn username a password mam ac yn ei ddefnyddio :? .
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai