Pili Pala - Catrin Dafydd

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pili Pala - Catrin Dafydd

Postiogan Llewelyn Richards » Maw 29 Awst 2006 2:27 pm

Wedi ei gorffen ers tua tair wythnos ac wedi cael cyfle i gnoi cil arni rywfaint. Nofel od, anarferol, ond mi wnes fwynhau. Fedrai'm honni fy mod i wedi gwerthfawrogi na deall yr holl linynnau ac is-themau drwyddi, ond mae'n werth dyfalbarhau i gyrraedd y twist anferth. A rhywsut, mae wedi aros efo fi - dwi'n cael fy hun yn meddwl am y cymeriadau o hyd. Dwi ddim yn meddwl y bydd hi at ddant pawb, ond mae'r sgwennu yn rhwydd iawn, yn aml yn ddoniol ac yn byrlymu o syniadau - yn fy atgoffa fi ychydig o Siri Hustvedt. Ar y cyfan, addawol iawn.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Re: Pili Pala - Catrin Dafydd

Postiogan Ray Diota » Maw 29 Awst 2006 2:50 pm

Llewelyn Richards a ddywedodd:yn fy atgoffa fi ychydig o Siri Hustvedt.


fydd catrin yn lico hynna... :winc:

dwi, ar y llaw arall, wedi gorfod teipo'r gont mewn i google :lol:

fyddet ti'n dod a dy gopi ar y bys bore fory, Llewelyn, i fi gal darllen e? gei di fe nol... falle allwn ni neud swapsies... ma 'da fi loads o Where's Wallies...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pili Pala - Catrin Dafydd

Postiogan Darth Sgonsan » Maw 29 Awst 2006 3:01 pm

Llewelyn Richards a ddywedodd: mae'r sgwennu yn rhwydd iawn, yn aml yn ddoniol ac yn byrlymu o syniadau


cytuno, ma'r sgwennu yn hyfryd (ddim mewn ffor' ponsi arferol genod sy'n sgwennu'n chwydlud-flodeuog) a nesh i fwynhau yn arw

yr odrwydd yn atgoffa fi o Dirgel Ddyn.
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan Llewelyn Richards » Maw 29 Awst 2006 3:12 pm

OK, Ray, deal. Gen i hefyd Roger Mellie's Profanosaurus Rex dwi'n gwybod y gwnei di fwynhau'n arw. :lol:
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 29 Awst 2006 9:21 pm

Dwi angen darllen hon yn fuan - dwi ddim yn un sy'n darllen nofelau ond dwi am wneud ymdrech tro yma (gan mod i yn y diolchiadau, dwi'n meddwl :? ) Mam yn deud fod y twist yn ddiddorol - dwin licio twists.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pili Pala - Catrin Dafydd

Postiogan trafferth mewn tafarn » Mer 30 Awst 2006 10:21 am

Ray Diota a ddywedodd:
Llewelyn Richards a ddywedodd:yn fy atgoffa fi ychydig o Siri Hustvedt.


fydd catrin yn lico hynna... :winc:


she combines the mind of an academic with the body of a model.


credu bo ti'n iawn ray.

mwynheues i'r nofel yn fowr. ond wi'n hollol biased!
trafferth mewn tafarn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 77
Ymunwyd: Maw 27 Ion 2004 3:38 pm

Postiogan cwmwl_crwn » Mer 25 Gor 2007 9:12 pm

dwi newydd ddechra ddarllen y nofel yma rŵan. ddoi nol i rhoi fy marn wedyn! neu i ofyn cymorth os fyddain styc!!!!

:lol:
cwmwl_crwn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Maw 24 Gor 2007 8:58 pm
Lleoliad: fry yn yr awyr


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron