Y Ddraig Goch, Emlyn Roberts

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Darth Sgonsan » Llun 23 Hyd 2006 11:45 am

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:
"......." medda ________ "......." medda ______.



ond doedd yna ddim llawar iawn o "..."medda_____ . Doedd yr awdur ddim yn nodi pwy oedd yn siarad, cos oedd o'n hollol amlwg, pan oedd dim ond dau gymeriad yn siarad efo'i gilydd, pwy oedd yn deud be
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Llun 23 Hyd 2006 12:21 pm

Darth Sgonsan a ddywedodd:
Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:
"......." medda ________ "......." medda ______.



ond doedd yna ddim llawar iawn o "..."medda_____ . Doedd yr awdur ddim yn nodi pwy oedd yn siarad, cos oedd o'n hollol amlwg, pan oedd dim ond dau gymeriad yn siarad efo'i gilydd, pwy oedd yn deud be


Digon gwir - roedd yn fwy fel drama na hynny, ond o'n i'n meddwl fod o'n fwy dealladwy na:

"......."
"......."
"......."
"......."


Ond dwi'n cofio golygfa yn nechrau'r llyfr (yr olygfa gyntaf o bosib) lle roedd dau heddwas wedi dod i holi'r prif gymeriad, ac i mi roedd y drafodaeth rhwng y tri yn fwrn braidd... Tasa gen i gopi o 'mlaen mi faswn i'n gallu rhoi enghreifftiau, ond fel ddywedais i, mae'r tudalennau ar wasgar ar hyd y fro...
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Ffinc Ffloyd » Iau 26 Hyd 2006 5:33 pm

Dwi'n anghytuno. Ella bod angen canolbwyntio ychydig mwy o ran darllen y ddeialog na fasa raid fel arall, ond dwi'n meddwl bod hynny'n help i fynd o dan groen y cymeriadau - mae'r math o sgwrsio siarp a naturiolaidd mae'r llyfr yn ddarlunio yn helpu'r darllenydd ddod i nabod y byd mae o ynddo fo. Dydi pob nofel ddim yr un mor hawdd i'w darllen a'i gilydd - ma rwbath fel Bleak House gen Dickens neu rwbath gen un o'r nofelyddion Rwsiaidd, er enghraifft, yn drwm iawn, ond dydi hynny'm yn 'u gwneud nhw'n waeth llyfrau. Os rwbath, ma gorfod gweithio chydig mwy efo llyfr yn gallu bod yn beth da weithiau.

O ran cynildeb, nonsens ydi dweud 'i bod hi'n ddiffygiol yn hynny o beth. Mae'r cymeriadau yn sicr yn dweud eu dweud yn blaen weithia, ond mae 'na ddoniolwch cynnil yn aml yn y naratif, efo jocs yn sleifio fyny tu nol i chi yn aml ar ol i chi 'u pasio nhw - fwy nag unwaith mi ffeindish i'n hun yn dweud 'aha...' ac yn chwerthin ar ol i rwbath o'n i wedi basio wawrio arna i.

Dwi'n meddwl ei fod o yn lyfr sy'n haws ei werthfawrogi os da chi di darllan Chandler a Hammett a nofelwyr eraill o'r cyfnod hynny, achos wedyn da chi'n gweld be mae'r awdur yn barodio, ond ar y llaw arall dio'm yn hanfod.

Ti'n amlwg yn dipyn o arbenigwr ar y petha sy'n gwneud nofel dda, Twyllwr - oes 'na bosib cael mwy o wybodaeth? Dwi ffansi rhoi cynnig ar sgwennu nofel yn hun a sa cael cymorth gen rhywun mor wybodus a chdi'n siwr o helpu.
Rhithffurf defnyddiwr
Ffinc Ffloyd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 558
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 10:48 am
Lleoliad: Dolgellau

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Iau 09 Tach 2006 4:18 pm

Wrth gwrs mod i'n derbyn nad oes rhaid i bob nofel dda fod yn hawdd i'w darllen (mae llyfrau Catherine Cookson yn haws i'w darllen na nofelau Rushdie er enghraifft, ond fyswn i ddim yn dweud eu bod nhw'n well). Efallai mod i'n euog o osod stamp ar lyfrau, a mod i wedi camgymryd hon fel nofel ysgafn darllen-hi-unwaith-a'i-rhoi-hi-i-Oxfam. Felly doeddwn i ddim yn barod i "orfod gweithio chydig mwy" arni, ac â bod yn onest doedd y nofel ddim yn fy nghymell i wneud hynny chwaith.

O ran be sy'n gwneud nofel dda - mae hynny'n amrywio tydi (ac ydw dwi yn dalld be' ydi coegni :P ). Plot, cymeriadau, a mynegiant i gyd yn hanfodol ac yn gydradd yn eu pwysigrwydd ac os yw un o'r 3 yma yn wan yna mae'r nofel hefyd ar ei cholled ac yn wan. Fel dwi 'di dweud, dwi'n meddwl mai'r mynegiant oedd y man gwan yn Y Ddraig Goch.

Pob lwc ar lunio dy nofel.
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Epsilon » Maw 21 Tach 2006 12:49 pm

Dwyt ti ddim yn argyhoeddi mae gen i ofn Twyllwr. Os wyt ti'n cyfaddef nad wyt wedi cymryd yr amser i ddarllen y llyfr yn iawn, rwyt yn gosod dy hun ar dir go fregus. Barn nid rhagfarn plis.
Rhithffurf defnyddiwr
Epsilon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Gwe 12 Medi 2003 1:29 pm

Nôl

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 20 gwestai

cron