Roedd yr <a href="http://www.cynghanedd.com/gwyl/">Wyl</a> yn wych, gyda rhywbeth ar dant pawb. Oedd tipyn o sioc yn y Talwrn ar y noson gyntaf, gyda limeric Dafydd Iwan yn cael ei guro gan ryw ypstart o Flaenau, ond bydd rhaid i chi aros i glywed (neu, i <a href="http://www.bbc.co.uk/cymru/radio/talwrn/talwrn-prif.shtml">ddarllen</a>) mwy am hynny.
Buon ni mewn gweithdy i'r "hamstars" bore dydd Sadwrn, a gafodd ei redeg gan Cynan Jones. Er syndod mawr i mi, nid fi oedd y person mwya anobeithiol yn yr holl ddosbarth, ond oedd y ras hwnnw yn agos iawn.
Yn y prynhawn, bu sesiwn trafod gwaith tri bardd ifanc, dan ofal Twm Morys a Mei Mac - oedd hyn yn ddiddorol iawn, ond yn rhy dechnegol i mi, i fod yn onest. Roedd y sesiwn canlynol yn waeth byth, yn nhermau hollti blew, ond yn ddiddorol tu hwnt yn nhermau cymdeithasegol - dadlodd y beirdd am y cwestiwn llosg: a ydy dau <b>b</b> yn wneud un <b>p</b> neu beidio. Ro'n i o blaid beth dwedodd Idris Reynolds: os ydy hi'n cynghaneddu yn bert, mae'n iawn. Ond ydy hyn yr holl bwynt?
Roedd pethau yn llacach o lawer yn y gyda'r nos (fel maen nhw'n dweud lan yn y gogledd heulog) - noson o Gynghaneddu'n Ddoniol mewn gwesty lleol.
Yn y bore, aethon ni i ddarlith Mererid Hopwood yn Saesneg. Dw i'n credu oedd hi braidd yn siomedig i weld cymaint o siaradwyr Cymraeg 'na: dim ond un person 'na oedd yn hollol di-Gymraeg.
Cawson ni ddarlith (trafodaeth, i fod, ond dw i'n credu oedd y beirdd i gyd yn flinedig ar ôl y sesiwn y prynhawn gynt) gan Myrddin ap Dafydd, am y mesurau newydd wnaeth e ddefnyddio yn ei gyfres buddugol Ty Ddewi. Wedyn, cinio arbennig, a beirniadaeth ar gystadleuaeth yr Wyl (a enillwyd gan Tudur Dylan) - arwydd o faint o'n i wedi mwynhau yw fy mod i'n bwriadu prynu'r <i>Barddas</i> nesa i ddarllen cerdd Tudur a'r eraill a gystadlodd.
Gwyl arbennig, pobl diddorol, tywydd bendigedig, a jyst rhag ofn o'ch chi'n poeni, brecwast ardderchog yn y gwesty gwely a brecwast, Glan Llifion, Cricieth.