Wir Yr! - Atgofion Maldwyn Lewis

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Wir Yr! - Atgofion Maldwyn Lewis

Postiogan Oh dear.Another welshman » Iau 19 Hyd 2006 6:27 pm

Cafodd llyfr newydd Maldwyn Lewis - "Wir Yr!" ei gyhoeddi ar ddydd Mercher 18/10/06. Dydw i heb ei brynnu eto. Oes unrhyw un ohonoch wedi ei brynu? Sut lyfr ydy o? Ydy e'n un ddifyr fel mae'r awdur yn dweud?

Os ydych chi heb brynnu'r llyfr ydych chi'n credu bod hi'n syniad da bob Maldwyn Lewis wedi cyhoeddi'r llyfr neu beidio?
Rhithffurf defnyddiwr
Oh dear.Another welshman
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Mer 18 Mai 2005 9:04 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan obi wan » Iau 09 Tach 2006 6:13 pm

Llyfr difyr, digrif iawn mewn mannau, a dadlennol. Dwyn y gwir i'r golau am lawer o bethau.
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm

Postiogan Hen Rech Flin » Gwe 10 Tach 2006 5:44 am

Llyfr difir, yn sicr werth ei ddarllen.

Yn amlwg yn llyfr sy'n dangos Maldwyn o'r ochr gorau.

Ond mae ochr arall i hanes Maldwyn. Mae Maldwyn yn un o gomiwnyddion y diwydiant llechi a rhoddodd droedle i'r chwith deheuol i chwalu breuddwyd annibyniaeth y Blaid trwy fagu'r syniad hurt bod sosialaeth yn bwysicach na chenedlaetholdeb

Roedd Maldwyn hefyd yn un o'r rhai a mynnodd nad oedd angen addysg Gymraeg yng Ngwynedd gan fod addysg yn naturiol Gymraeg yng ngogledd orllewin Cymru.

Dau gamgymeriad mae'r gogledd orllewin yn talu yn ddrud amdanynt hyd heddiw. Yn wleidyddol ac yn ieithyddol
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Positif80 » Gwe 10 Tach 2006 8:30 am

'Sgen i ddim byd negyddol i ddweud am Maldwyn Lewis, ond dwi'm yn meddwl baswn yn prynu llyfr amdano.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 10 Tach 2006 4:17 pm

:? Ella mod i allan ohoni, ond pwy ydi'r dyn dan sylw?

"Who ISSSS he?!...where did you FIND him?!"
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 12 Tach 2006 3:24 am

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd::? Ella mod i allan ohoni, ond pwy ydi'r dyn dan sylw?

"Who ISSSS he?!...where did you FIND him?!"


Pryna copi o'r llyf ac mi gei gwybod y cyfan!!!! :D

http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/1845270797

Maldwyn yw un o bwysigion y Blaid yng Ngwynedd. Y grym tu nol i orseddau Dafydd Wigley, Dafydd Êl a chynghorwyr Gwynedd.

O ran ei fywyd cyhoeddus, dyn ei filltir sgwâr yw Maldwyn, ac un sydd wedi rhoi oes o wasanaeth clodwiw i'r filltir sgwâr honno. Ond mae Maldwyn hefyd yn un o ddynion dirgel y stafell gefn myglyd sy'n cael dylanwad, heb sylw, tu hwnt i'w fro. Dyna ei wir bwysigrwydd yn hanes diweddar y genedl.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sul 12 Tach 2006 1:43 pm

Diolch :)
O'n i ddim wedi bwriadu swnio'n dwp!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Positif80 » Llun 13 Tach 2006 10:28 am

O diddordeb, oes unrhyw criteria ar gyfer "best seller" yn y Gymraeg? 'Swn i'n hoffi gwybod faint mae llyfrau fel hyn yn gwerthu - s'gen i ddim bywywd ti'n gweld :winc:
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Llun 13 Tach 2006 10:44 am

I fod at 50 Ucha'r Times wythnos yma, roedd llyfrau'n rhaid gwerthu rhwng 6,500 (rhif 50) a 39,000 (rhif 1). O gymryd poblogaeth Prydain oddeutu 60m, mae hyn yn golygu rhwng 0.01 a 0.065 y cant o'r boblogaeth.

O gymryd poblogaeth oddeutu 600,000 sydd a'r gallu i siarad Cymraeg, byddai hynny'n cyfatebu i werthu rhwng tua 60 a 400 o gopiau.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai