Dydw i ddim yn licio cael fy llusgo i mewn i drafodaeth am fy nofel fy hun. Ond mae wil saim gwallt yn beirniadu'n bersonol, fyddwch chi'n cytuno? (A diolch i'r rhai sydd wedi f'amddiffyn/ymateb yn hynny o beth, gyda llaw).
Dyma ydi'r deilema o fod yn awdur ac yn aelod o maes-e. Ar un llaw mae rhywun isio cadw 'tawelwch urddasol awdur' - dydio ddim isio bod yn agored i'r cyhuddiad ei fod yn methu cymryd beirniadaeth, a dydio ddim isio gneud i bobol fod ofn bod yn onest. Ar y llaw arall, pan mae rhywun yn dod ato i drafod ei waith diweddara allan yn y gymuned - ar y stryd neu mewn tafarn - mae'n hapus i drafod y gwaith efo nhw. Be sy mor wahanol ar maes-e? Dwi'n nabod lot yma yn bersonol, ac yn nabod eraill fel cyfrannwyr a chyd-drafodwyr cyson. Cymuned yw maes-e wedi'r cyfan, ynde?
Tueddu i gadw allan ydw i'n neud, fodd bynnag. Bob tro dwi wedi ildio i demtasiwn i ymateb i bwynt creadigol penodol, dwi wedi difaru wedyn! Felna ydw i, yn fag o nerfau tu mewn y gragan 'ma!
Anwybyddu honiadau gwallgo Wil Saim Gwallt oeddwn am wneud hefyd, a deud y gwir. Roedd yn amlwg i mi ei fod yn unai -
1) ffrind i mi yn trio fy weindio i fyny
2) rhywun dwi wedi ei bechu ar y maes 'ma (dwi'n meddwl y gallwn i gyd gytuno fod gwenwyn yn ei eiriau - yn ogystal â anwybodaeth?)
3) newyddiadurwr/wraig neu fyfyriwr sydd yn trio fy ngwylltio i ymateb gyda rhywbeth fel "na, mae'r nofel yn seiliedig ar ddigwyddiadau a chymeriadau go iawn." Os felly,
nice try, Einstein.
Ond gan fod y cymeriad 'ma wedi ail-adrodd ei honiadau, a gan fod bacio lawr o ffeit ddim yn un o fy nghryfderau, dwi am ateb - gan drio bod mor grynno â phosib, a chan gadw at yr honiadau dan sylw yn benodol.
I ddechrau off, dydw i ddim yn ddosbarth canol o bell ffordd! Sori, ond mae hynna'n un o'r jôcs gora ar y maes 'ma'n ddiweddar - fel sydd eisoes wedi cael ei awgrymu gan y dihafal Ray Diota! Sdim angan ymhelaethu.
Yn ail, dydi'r nofel ddim am gymdeithas - na'r werin - gyfan. Mae hi am gymeriadau penodol oddifewn i gymdeithas. Doh!
Yn drydydd, heb fynd i fanylion am resymau amlwg, mae'r nofel yn tynnu oddiar dau ddegawd o brofiad ffyrst hand o'r byd, criw a cymuned ydw i wedi byw, gweithio a chymdeithasu yn eu mysg ers 30 mlynedd. Mae hi'n cael ei phrynu a'i mwynhau yn aruthrol gan y dosbarth gweithiol Cymraeg sydd erioed wedi prynu na darllen nofel Gymraeg o'r blaen. Mae genai gannoedd o engreifftiau o feedback i gefnogi hyn, a dwi ddim isio ymffrostio - caiff Y Lolfa wneud hynny drostaf
- ond mae'r gwerthiant yn anhygoel.
Fwy na hynny, mae hi'n cael ei darllen a'i mwynhau gan y gymuned y mae'n seiliedig arni, a felly hefyd gan ffrindiau a chymdogion sy'n byw yn yr un stad tai cyngor â mi, yma yn Llan Ffestiniog.
Yn bedwerydd, os ydi 'Wil Pen Bach' yn trio deud nad oes pobl fel hyn yn bodoli, a mai nid fel hyn mae'r bobl yma'n byw, yna fo/hi, nid fi, sydd owt of tytsh efo realiti. A fo/hi, nid fi, sy'n byw ar soffa foethus ymneilltiedig o'r byd go iawn. Efallai mai fo/hi yw'r 'dosbarth canol' neu'r 'bourgeois' yn fan hyn?
Yn bumed, sgena i ddim soffa foethus. Mae hi'n hen ac yn drewi, yn bigog a thyllog, ac yn llawn o bob math o drugareddau sy'n codi ofn rhoi fy nwylo i lawr 'na arnai.
Cyn mynd, liciwn i ddeud os nad yw 'Wil' wedi mwynhau y nofel, yna croeso iddo beidio darllen y nesaf sydd ar y gweill. Mi fydd allan yn yr hydref.
A diolch iddo am ei phrynu, gyda llaw - £1 arall yn fy mhoced.