Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Maw 30 Ion 2007 2:52 pm
gan wil saim gwallt
Newydd orffen hon ac mae'n nofel warthus

Mae'n portreadu cymru cyffredin gogledd Cymru fel rhyw rafins meddw di-egwyddor.

Hen draddodiad ydio i sgwennwyr o gefndir dosbarth canol fel Dewi Prysor, bortreadu'r werin fel ciwed amharchus a gweld hwyl mewn trallod a thlodi ysbrydol.

Anos ydi sgwennu'n dreiddgar am ffaeleddau'r dosbarth canol cymraeg.

PostioPostiwyd: Maw 30 Ion 2007 4:05 pm
gan Hedd Gwynfor
wil saim gwallt a ddywedodd:Newydd orffen hon ac mae'n nofel warthus

Mae'n portreadu cymru cyffredin gogledd Cymru fel rhyw rafins meddw di-egwyddor.

Hen draddodiad ydio i sgwennwyr o gefndir dosbarth canol fel Dewi Prysor, bortreadu'r werin fel ciwed amharchus a gweld hwyl mewn trallod a thlodi ysbrydol.

Anos ydi sgwennu'n dreiddgar am ffaeleddau'r dosbarth canol cymraeg.


Pam ti'n meddwl fod Dewi Prysor yn aelod o'r 'dosbarth canol'? Dwi'n siwr bydde Dewi yn gweld ei hunan fel person cyffredin o ogledd Cymru! :?

Finne newydd orffen hon hefyd, ac mae'n nofel wych!

PostioPostiwyd: Maw 30 Ion 2007 4:17 pm
gan CORRACH
wil saim gwallt a ddywedodd:Newydd orffen hon ac mae'n nofel warthus

Mae'n portreadu cymru cyffredin gogledd Cymru fel rhyw rafins meddw di-egwyddor.

Hen draddodiad ydio i sgwennwyr o gefndir dosbarth canol fel Dewi Prysor, bortreadu'r werin fel ciwed amharchus a gweld hwyl mewn trallod a thlodi ysbrydol.

Anos ydi sgwennu'n dreiddgar am ffaeleddau'r dosbarth canol cymraeg.


HAWS ydi disgrifio ffaeleddau'r DosCan, mae cymaint o bobl yn ei wneud, targed hawdd.

Nid portread gwrth-ddosbarth gweithiol ydi o. Mae llawer o sylfaen y nofel (hynny yw, nid y storiau a ellid eu gweld yn far-fetched- sydd yn iawn mewn nofel wrth gwrs!) e.e. cyffuriau, rhegi, agwedd wleidyddol Cled yn bodoli yng Nghymru, ac anobeithio yn y system, yn bethau gwirioneddol yng Nghymru, efallai yn rhai rhannau o'r wlad yn fwy na'i gilydd. Os ti'n ymwybodol o hyn, mae'r nofel ar ryw lefel yn datguddio pethau am gymdeithas Gymreig a Chymraeg sydd yn RHY wrthun i lawer sy'n gweld eu hunain yn rebeliaid am ddychan y Dos.Can.
Ac fel arfer unigolion o'r dosbarth canol eu hunain sy'n dychanu'r dosbarth canol.

PostioPostiwyd: Maw 30 Ion 2007 4:25 pm
gan Ray Diota
wil saim gwallt a ddywedodd:Hen draddodiad ydio i sgwennwyr o gefndir dosbarth canol fel Dewi Prysor, bortreadu'r werin fel ciwed amharchus a gweld hwyl mewn trallod a thlodi ysbrydol.


dewi prysor yn middle class?? ffaaaaaac off..... :lol:

PostioPostiwyd: Maw 30 Ion 2007 5:37 pm
gan Macsen
Hen draddodiad ydio i sgwennwyr o gefndir dosbarth canol fel Dewi Prysor, bortreadu'r werin fel ciwed amharchus a gweld hwyl mewn trallod a thlodi ysbrydol.

Cytunaf! Mae Dewi Prysor a'r bourgeois eraill yn edrych lawr eu trwynau ar ni'r werin bobol ! Maent yn iro'i peiriannau printio diawledig gyda'n chwys a gwaed! :winc:

PostioPostiwyd: Mer 31 Ion 2007 11:13 am
gan wil saim gwallt
Canran fechan iawn o bobol cymru sy'n byw fel y cymeriadau sy'n britho tudalennau brithyll, ond mae'n plesio sgwennwyr bourgeois a gwleidyddion llafur i bortreadu pobol gyffredin fel hyn e.e Shameless, a basically pob drama erioed am bobol 'gyffredin', oherwydd mae o'n neud i bob dosbarth canol fel awdur brithyll deimlo'n well amdanyn nhw eu hunain

Mae'n ffantasi braf iawn o gysur eich soffa gyfforddus i esgus fod y rafins yn dwyn ac yn cael sbri ac yn gesys, braidd fel swatio tra mae'n stormus tu fas

PostioPostiwyd: Mer 31 Ion 2007 1:24 pm
gan Prysor
Dydw i ddim yn licio cael fy llusgo i mewn i drafodaeth am fy nofel fy hun. Ond mae wil saim gwallt yn beirniadu'n bersonol, fyddwch chi'n cytuno? (A diolch i'r rhai sydd wedi f'amddiffyn/ymateb yn hynny o beth, gyda llaw).

Dyma ydi'r deilema o fod yn awdur ac yn aelod o maes-e. Ar un llaw mae rhywun isio cadw 'tawelwch urddasol awdur' - dydio ddim isio bod yn agored i'r cyhuddiad ei fod yn methu cymryd beirniadaeth, a dydio ddim isio gneud i bobol fod ofn bod yn onest. Ar y llaw arall, pan mae rhywun yn dod ato i drafod ei waith diweddara allan yn y gymuned - ar y stryd neu mewn tafarn - mae'n hapus i drafod y gwaith efo nhw. Be sy mor wahanol ar maes-e? Dwi'n nabod lot yma yn bersonol, ac yn nabod eraill fel cyfrannwyr a chyd-drafodwyr cyson. Cymuned yw maes-e wedi'r cyfan, ynde?

Tueddu i gadw allan ydw i'n neud, fodd bynnag. Bob tro dwi wedi ildio i demtasiwn i ymateb i bwynt creadigol penodol, dwi wedi difaru wedyn! Felna ydw i, yn fag o nerfau tu mewn y gragan 'ma!

Anwybyddu honiadau gwallgo Wil Saim Gwallt oeddwn am wneud hefyd, a deud y gwir. Roedd yn amlwg i mi ei fod yn unai -

1) ffrind i mi yn trio fy weindio i fyny

2) rhywun dwi wedi ei bechu ar y maes 'ma (dwi'n meddwl y gallwn i gyd gytuno fod gwenwyn yn ei eiriau - yn ogystal â anwybodaeth?)

3) newyddiadurwr/wraig neu fyfyriwr sydd yn trio fy ngwylltio i ymateb gyda rhywbeth fel "na, mae'r nofel yn seiliedig ar ddigwyddiadau a chymeriadau go iawn." Os felly, nice try, Einstein.

Ond gan fod y cymeriad 'ma wedi ail-adrodd ei honiadau, a gan fod bacio lawr o ffeit ddim yn un o fy nghryfderau, dwi am ateb - gan drio bod mor grynno â phosib, a chan gadw at yr honiadau dan sylw yn benodol.

I ddechrau off, dydw i ddim yn ddosbarth canol o bell ffordd! Sori, ond mae hynna'n un o'r jôcs gora ar y maes 'ma'n ddiweddar - fel sydd eisoes wedi cael ei awgrymu gan y dihafal Ray Diota! Sdim angan ymhelaethu.

Yn ail, dydi'r nofel ddim am gymdeithas - na'r werin - gyfan. Mae hi am gymeriadau penodol oddifewn i gymdeithas. Doh!

Yn drydydd, heb fynd i fanylion am resymau amlwg, mae'r nofel yn tynnu oddiar dau ddegawd o brofiad ffyrst hand o'r byd, criw a cymuned ydw i wedi byw, gweithio a chymdeithasu yn eu mysg ers 30 mlynedd. Mae hi'n cael ei phrynu a'i mwynhau yn aruthrol gan y dosbarth gweithiol Cymraeg sydd erioed wedi prynu na darllen nofel Gymraeg o'r blaen. Mae genai gannoedd o engreifftiau o feedback i gefnogi hyn, a dwi ddim isio ymffrostio - caiff Y Lolfa wneud hynny drostaf :winc: - ond mae'r gwerthiant yn anhygoel.

Fwy na hynny, mae hi'n cael ei darllen a'i mwynhau gan y gymuned y mae'n seiliedig arni, a felly hefyd gan ffrindiau a chymdogion sy'n byw yn yr un stad tai cyngor â mi, yma yn Llan Ffestiniog.

Yn bedwerydd, os ydi 'Wil Pen Bach' yn trio deud nad oes pobl fel hyn yn bodoli, a mai nid fel hyn mae'r bobl yma'n byw, yna fo/hi, nid fi, sydd owt of tytsh efo realiti. A fo/hi, nid fi, sy'n byw ar soffa foethus ymneilltiedig o'r byd go iawn. Efallai mai fo/hi yw'r 'dosbarth canol' neu'r 'bourgeois' yn fan hyn?

Yn bumed, sgena i ddim soffa foethus. Mae hi'n hen ac yn drewi, yn bigog a thyllog, ac yn llawn o bob math o drugareddau sy'n codi ofn rhoi fy nwylo i lawr 'na arnai.

Cyn mynd, liciwn i ddeud os nad yw 'Wil' wedi mwynhau y nofel, yna croeso iddo beidio darllen y nesaf sydd ar y gweill. Mi fydd allan yn yr hydref.

A diolch iddo am ei phrynu, gyda llaw - £1 arall yn fy mhoced.

PostioPostiwyd: Mer 31 Ion 2007 3:03 pm
gan Cardi Bach
wil saim gwallt a ddywedodd:Newydd orffen hon ac mae'n nofel warthus

Mae'n portreadu cymru cyffredin gogledd Cymru fel rhyw rafins meddw di-egwyddor.

Hen draddodiad ydio i sgwennwyr o gefndir dosbarth canol fel Dewi Prysor, bortreadu'r werin fel ciwed amharchus a gweld hwyl mewn trallod a thlodi ysbrydol.

Anos ydi sgwennu'n dreiddgar am ffaeleddau'r dosbarth canol cymraeg.


Peidiwch a chael eich llyncu, bobol bach.
Tafod ym moch
:)

PostioPostiwyd: Mer 31 Ion 2007 4:34 pm
gan wil saim gwallt
Dwi'n hollol jen wedi blino ar weld pobol Cymru yn cael eu portreadu gan wleidyddion a sgwennwyr, fel gwerin amharchus, gwirion, victims, diegwyddor sy'n hapus ymdrabaeddu mewn cachu. Ac os oes yna rhai pobol yn byhafio felna, dwi ddim yn licio'r ffordd mae'n dwiylliant poblogaidd ni yn clodfori'r elfennau yma, (ala Jade Goody)

TRaddodiad y rhelwy o Gymru ydi clodfori addysg a datblygiad, a moesoldeb cymdeithasol, a datblygiad, a mynegiant, a pharchusrwydd dan sefyllfaeodd annodd. Y traddodiad wrth ddylunio trallod mewn llenyddiaeth, oedd cael moeswers ar y diwedd. Ond fedrai ddim gweld hynny yn 'Brithyll'

Yn eironig mae awdur Brithyll ei hun yn enghraifft o'r traddodiad cymreig dwi'n son amdano fo. Oherwydd er yr hyn dwi wedi ddeud, dwi'n meddwl fod y nofel wedi ei sgwennu yn garlamus wych, a darnau helaeth yn rhyfeddol o ddoniol, yn profi yn fy marn i fod yna awdur arbennig o dalentog wedi cyrraedd y sin. (diolch byth)

PostioPostiwyd: Mer 31 Ion 2007 4:39 pm
gan khmer hun
Diawl o handbrake turn da fanna, Wil.