Fuos i'n siarad efo cwpwl o Iwerddon chydig o wsnosa yn ol a mi soniodd nw am lyfr oedd yn RHAID i mi ddarllan ond......................dwi wedi anghofio'r teitl ac enw'r awdur!
Mi roedd o'n lyfr am ddyn o Gymru (dwi'n meddwl!) a'i hanas o'n dod a cyffuriau i mewn i'r wlad a ballu. Yn ol beth oedd y Gwyddelod ma'n ddeud, roedd o'n lyfr doniol iawn.
Dim ond hyna dwi'n cofio felly oes gan rywun unryw syniada? Plis?!