yndy, mae 'Closing Time' yn ddiawledig o siomedig. 'God Knows' yn eithaf da, ddo. ac am ryw rheswm, dw i bob tro yn meddwl am Kurt Vonnegut wrth drafod Heller - dwn i'm pam, ond mae 'Player Piano', 'Slaughterhouse Five', 'Deadeye Dick' a 'Galapagos' yn anfarwol, yn hollol, hollol bizarre a gwych.
ac mae 'Fahrenheit 451' gan Ray Bradbury yn anhygoel o dda, hefyd, ac mae sôn am Vonnegut bob tro yn fy atgoffa i o Bradbury. ella i mi ddarllen nhw i gyd tua'r un pryd neu wbath. neu jesd bod gen i brên sy'n allan o gêr...