Sgrifen yn y Tywod

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sgrifen yn y Tywod

Postiogan HoganDre » Sul 01 Ebr 2007 1:08 pm

helo, dim ond wondro o's 'na rhywun fasa'n gallu gyrru'r gerdd Sgrifen yn y Tywod gan Iwan Llwyd i mi dros hwn. Dwi 'di sdydio hi yn ddiweddar, ac angan y geiria unwaith eto! Diolch!
HoganDre
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Mer 21 Chw 2007 4:26 pm

Postiogan anffodus » Sul 01 Ebr 2007 5:22 pm

Mae'r lôn fel craith ddu yn yr eira
A barrug ar y brigau yn dew
Un frân ar y gorwel yn gwylio'r ffin
A llyn Clywedog dan rew

Chwefror yng Nghymru'n troi'n chwerw
Dan dlysni fel cerdyn post
A mamau yn effro yn ofni'r ffôn
A gweddwon yn cyfri'r gost

Ac mae'r llunia bob nos ar y satellite
Yn dangos fod Duw o'n plaid
A'r sgrifen yn nhywod y dwyrain yn deud
Fod olew yn dewach na gwaed

Mae'r oerfel yn gafael yn y bysedd grisial
Sy'n crogi o'r coed
Ac mae gwres haul yr haf
Heno'n teimlo mor ddiarth a phell ag erioed

Ac mae'r llunia bob nos ar y satellite
Yn profi bod Duw o'n plaid
A'r sgrifen yn nhywod y dwyrain yn deud
Fod olew yn dewach na gwaed

Ar lan yr Iorddonen mae'r ddaear
Yn crio a chrio am law
A'r cychod yn barod i dywys eu cargo
I'r ochr draw

Ac wrth i haul yr anialwch fachludo
Gwelaf gowboi yn codi'i law
Ac arwain y garafan i gyrion y paith
A'r Navaho'n gwaedu gerllaw

Ac mae'r llunia bob nos ar y satellite
Yn pregethu fod Duw o'n plaid
Mae 'na aur yn y brynia' a phres yn fy nwrn
Ac ma' olew yn dewach na gwaed

Ac mae'r llunia bob nos ar y satellite
Yn pregethu fod Duw o'n plaid
Mae 'na aur yn y brynia a phres yn fy nwrn
Ac mae olew yn dewach na gwaed
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan sian » Sul 01 Ebr 2007 6:41 pm

Da ydi hi hefyd - wyddwn i ddim mai Iwan Llwyd oedd wedi'i sgrifennu hi - fersiwn Geraint Lovgreen ar y CD amlgyfrannog Er Mwyn Ein Plant (?) roeddwn i'n wybod.
Mae'n hala rhyw ias trwydda i bob tro rwy'n ei chlywed hi.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan krustysnaks » Sul 01 Ebr 2007 7:02 pm

Clyw Leisiau'r Plant yw enw'r CD, dwi'n meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan sian » Sul 01 Ebr 2007 7:11 pm

krustysnaks a ddywedodd:Clyw Leisiau'r Plant yw enw'r CD, dwi'n meddwl.

:wps:
Un dda yw hi - dw i'n licio cân Twm Morys arni - "Neb yn Gurnos, neb yn Garn"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan HoganDre » Llun 02 Ebr 2007 11:42 am

Diolch yn fawr iawn! Be' 'di'r CD 'ma ta?! Fel cymysgedd o lot o bobl gwahanol ia?!
HoganDre
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Mer 21 Chw 2007 4:26 pm

Postiogan anffodus » Llun 02 Ebr 2007 4:39 pm

Ia. Bob Delyn, Llwybr Llaethog, Estella, Maharishi, Mim Twm Llai, Tokyu, Meic Stevens, Pep Le Pew, Geraint Lovgreen, Anweledig, Bryn Fôn a Neu Unrhyw Declyn Arall yn cyfrannu
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)


Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron